Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth ailddilysu a rheoli ansawdd

Cogs

Rydym yn gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid i ddarparu arweiniad, cynorthwyo a gyrru gwelliant parhaus yn ei flaen.

  • Rydym yn arwain ac yn cyfrannu at grwpiau Cymru gyfan sy’n goruchwylio ac yn cefnogi’r broses o ailddilysu meddygol drwy hwyluso dull cyson o ymdrin â pholisïau, canllawiau cyffredinol a gwella ansawdd.
  • Rydym yn darparu rhaglen o ddigwyddiadau i gefnogi’r rheini sy’n gweithio ym maes arfarnu meddygol ac ailddilysu. Mae’r rhain yn cynnwys cynadleddau arfarnu rhanbarthol ar gyfer arfarnwyr gofal eilaidd, rhwydweithiau cymorth a’r gynhadledd flynyddol ar sicrhau ansawdd arfarniadau (AQA). Nod y digwyddiad AQA yw sicrhau ansawdd allbynnau’r crynodeb arfarnu ym maes gofal sylfaenol ac eilaidd ledled Cymru, gan ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant parhaus i arfarnwyr ar yr un pryd.

    Anogir yr holl Arfarnwyr i fynychu’r digwyddiadau gyda’r cyfle i rwydweithio gyda chydweithwyr, trafod a rhannu sgiliau ar adeiladu crynodebau a chanlyniadau. Mae’r digwyddiad hwn yn adeiladu ar ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer arfarnwyr yn eu rôl a hefyd yn cefnogi’r RSU i nodi themâu a gwelliannau ar gyfer ansawdd crynodebau arfarnu.

  • Rydym yn arwain rhaglen o weithgareddau rheoli ansawdd, sy’n cynnwys ymweliadau adolygu sicrwydd ansawdd ailddilysu â phob corff dynodedig yng Nghymru, er mwyn rhoi sicrwydd i’r prif swyddog meddygol fod systemau arfarnu ac ailddilysu’n datblygu’n barhaus er mwyn bodloni, a lle bo hynny’n bosibl, rhagori ar safonau ansawdd diffiniedig. Rydym hefyd yn ymgymryd ag amrywiaeth o brosiectau gwella ansawdd i archwilio ffyrdd newydd o weithio, gan ddarparu argymhellion ac arweiniad i wella ein systemau a’n prosesau ymhellach yng Nghymru. Defnyddir canlyniadau ein gwaith ansawdd wedyn i ddatblygu cynllun gweithredu Cymru gyfan i gefnogi’r ymgyrch barhaus hon i wella ansawdd.