Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau ar-lein

Collage of logos

Mae’r Uned Cymorth Ailddilysu (RSU) wedi cynllunio, datblygu a nawr yn rheoli cyfres o adnoddau ar-lein sy’n cefnogi meddygon a chyrff dynodedig drwy’r broses arfarnu ac ailddilysu meddygol:

Y System Arfarnu ac Ailddilysu Meddygol (MARS) fu’r un system rheoli arfarnu ar gyfer pob meddyg sydd â chysylltiad rhagnodedig yng Nghymru ers 2014. Mae’n cael ei defnyddio gan dros 7,500 o feddygon i hwyluso eu harfarniad blynyddol ac i fodloni gofynion ailddilysu. Mae MARS yn cael ei adolygu’n barhaus i sicrhau ei fod yn dal yn addas i’r diben.

Orbit360™ system adborth cleifion a chydweithwyr o'r dechrau i’r diwedd a ddatblygwyd ar gyfer pob meddyg sydd â chysylltiad rhagnodedig â chorff dynodedig yn y GIG yng Nghymru. Mae Orbit360™ yn cynnig rhyngwyneb defnyddiwr greddfol a ffurflenni adborth wedi'u dilysu gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) i sicrhau bod adroddiad y meddyg a gasglwyd yn bodloni gofynion ailddilysu. Bydd i lwyfan addasol yn galluogi proffesiynau eraill i’w ddefnyddio yn y dyfodol.

Yn ogystal â’r adnoddau hyn, rydym yn cefnogi dwy system genedlaethol arall:

Y System Arfarnu Deintyddol (DAS), a ddatblygwyd ar y cyd â Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd a Chymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA), ac sy’n system o’r dechrau i’r diwedd  sy’n caniatáu i ddeintyddion cymunedol (CDS) archebu cyfarfodydd arfarnu a chasglu gwybodaeth ategol drwy lwyfan diogel ar-lein. Mae’n cyd-fynd â’u telerau ac amodau gwasanaeth ac yn seiliedig ar gysyniad tebyg i MARS.

Adolygiad Proffesiynol Cymru o Optometreg (WPRO), system fentora adolygu cymheiriaid i gefnogi optometryddion sydd newydd gymhwyso. Mae mewn cam treialu ar hyn o bryd a bydd yn cael ei arfarnu i benderfynu a yw’n dangos prawf cysyniad i MARS ac a oes modd addasu’r llwyfan i’w ddefnyddio fel adnodd cymorth addysgol.

Mae staff sydd wedi’u hyfforddi yn yr RSU yn darparu gwasanaeth Desg Gymorth penodol i gefnogi ein holl systemau ar-lein ac i ateb unrhyw ymholiadau gan ddefnyddwyr.

Os hoffech chi ddarganfod mwy neu os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio unrhyw un o’n systemau, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.