Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyfforddiant sydd ar gael

Two people training a group of people

Rydym yn darparu’r gweithdai a'r gweminarau canlynol i hyfforddwyr a hyfforddeion. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu'r rhain, ewch i'n tudalen ar Eventbrite gan ddefnyddio'r ddolen neu'r cod QR isod: 

Uned Cymorth Proffesiynol, Digwyddiadau AaGIC | Eventbrite

*Newydd*

Sgiliau a Strategaethau Cyfathrebu

Gweminar awr o hyd

 

Cynulleidfa: Hyfforddeion

 

Mae’n dda gennym gynnig clinig Sgiliau a Strategaethau Cyfathrebu awr o hyd ar-lein.

 

Disgrifiad:

Pŵer geirio a mynegi effeithiol.

Adnabod a defnyddio iaith idiomatig/sgyrsiol a pham mae hyn yn bwysig.

Dweud ‘na’ mewn modd effeithiol.

Agwedd y llais a herio mewn modd adeiladol.

Geiriau ffasiynol ar gyfer arfarniadau a chyfweliadau.

 

Nodau ac amcanion:

Edrych ar ystod o ymadroddion cyffredin a all wella’ch sgyrsiau yn y gwaith, a’u hymarfer.

Meddwl am ymadroddion a all helpu i greu’ch hunaniaeth broffesiynol unigol.

 

Cyflwynir gan Jo Hopkins, comms4Docs

https://comms4docs.com

 

Meddygon Teulu dan hyfforddiant:

 

  • Dydd Mercher 07/09/2022 (14:00 - 15:00)

 

Gweithwyr ysbyty dan hyfforddiant:

 

  • Dydd Llun 22/11/2022 (13:00 - 14:00)

 

Cofrestrwch drwy ddefnyddio’r cod QR uchod

 

 

Bod yn gefn i hyfforddeion yn ystod eu hyfforddiant

Gweminar 2 awr

 

Cynulleidfa: Cyfadran

 

Disgrifiad:

Gweithdy rhyngweithiol wedi’i gymeradwyo gan RCP sy’n addas ar gyfer pob aelod o’r gyfadran ac uwch hyfforddai sy’n goruchwylio hyfforddeion meddygol neu ddeintyddol. Mae’r gweithdy yn canolbwyntio ar adnabod problemau a all effeithio ar gynnydd hyfforddeion ac yn mynd i’r afael â nhw.

Bydd y cyfranogwyr yn ystyried arwyddion a sbardunau problemau cymorth, dysgu llwybrau atgyfeirio a thrafod technegau goruchwylio hyfforddeion sydd ag anghenion cymorth amrywiol. 

 

Nodau ac amcanion:

  • Disgrifio’r problemau a all gael effaith arwyddocaol ar gynnydd hyfforddeion.
  • Datblygu sgiliau i ddeall problemau sy’n ymwneud â rhoi cymorth ac adnabod sbardunau cysylltiedig â chyflawniad gwaith.   
  • Datblygu sgiliau i oruchwylio hyfforddeion sydd ag anghenion cymorth
  • Datblygu sgiliau i lunio cynlluniau addysg penodol sy’n cynnwys nodau a deilliannau rhesymol y mae modd eu hadnabod sydd eu hangen ar gyfer cynnydd boddhaol.
  • Gwybod sut i fod yn gefn i hyfforddai ag iechyd gwael neu anabledd yn y gweithle.
  • Gwybod ble mae gwybodaeth ac adnoddau i’w cael.
  • Swyddogaeth yr Arweinydd Cymorth Proffesiynol o fewn yr Ysgol Arbenigedd
  • Cynyddu rhwydweithiau a chreu, o bosibl, gymuned o gymorth yng Nghymru.

 

Dyddiadau:

E-bostiwch heiw.professionalsupport@wales.nhs.uk os hoffech i ni gyflwyno sesiwn

 

Gwybodaeth cadw lle:

Bydd yr Uned Cymorth Proffesiynol hefyd yn cyflwyno’r gweithdy hwn ar gais o Ganolfannau Ôl-raddedig neu Arbenigeddau. I gadw lle, e-bostiwch yr Uned Cymorth Proffesiynol HEIW.ProfessionalSupport@wales.nhs.uk

 

Hyfforddiant i’r mentor a’r sawl sy’n cael ei fentora – Manteisio i’r eithaf ar fentora

Dwy weminar awr o hyd

 

Cynulleidfa: Cyfadran a Hyfforddeion

 

Disgrifiad:

Gweminar 2 ran neu weithdy wyneb yn wyneb.

Mae’n bosibl eu cynnal ar ddiwrnodau gwahanol neu gyda’i gilydd.

 

Nodau ac amcanion:

Rhan 1

•             Cysyniadau mentora

•             Pynciau mentora mewn lleoliad gofal iechyd

•             Perthynas ac ymddygiad y mentor a’r sawl sy’n cael ei fentora, a’u cyfrifoldebau i’w gilydd.

Rhan 2

•             Sgiliau ac adnoddau mentora

•             Sgiliau craidd y dylai’r mentor a’r sawl sy’n cael ei fentora fod yn gyfarwydd â nhw. Ffocws ar ddulliau cyflawni nodau, er enghraifft, pennu amcanion SMART, defnyddio model GROW a’r model Johari Relationship Window i gael y deilliant gorau posibl.

 

Dyddiadau:

E-bostiwch heiw.professionalsupport@wales.nhs.uk os hoffech i ni gyflwyno sesiwn

 

Gwybodaeth cadw lle:

Bydd yr Uned Cymorth Proffesiynol yn cyflwyno’r gweithdy hwn ar gais o Ganolfannau Ôl-raddedig neu Arbenigeddau. I gadw lle, e-bostiwch yr Uned Cymorth Proffesiynol: HEIW.ProfessionalSupport@wales.nhs.uk

 

Hyfforddiant Gwylio Gweithredol

Gweminar 2 awr

 

Cynulleidfa: Cyfadran a Hyfforddeion

 

Disgrifiad:

Gweminar neu ddysgu wyneb yn wyneb sy’n ystyried pam rydym angen gwylwyr gweithredol, pwy ydynt a beth maent yn ei wneud.

Bod yn gynghreiriad – dysgu sut gallwch chi ddod yn wyliwr gweithredol.

 

Nodau ac amcanion:

  • Beth yw ystyr bod yn Wyliwr Gweithredol?
  • Gwahaniaeth rhwng sylwi ar ymddygiad a gwneud rhywbeth amdano
  • Rhwystrau i ymyrraeth
  • Sut mae ymyrryd mewn modd diogel

 

Dyddiadau:

Dydd Mercher 30/11/2022 am 7pm

Dydd Mercher 19/04/2023 am 7pm

 

Cofrestrwch drwy ddefnyddio’r cod QR uchod

 

Sgyrsiau hollbwysig

Gweminar awr o hyd

 

Cynulleidfa: Cyfadran a Hyfforddeion

 

Disgrifiad:

Gweminar neu ddysgu wyneb yn wyneb lle byddwn yn ystyried sgyrsiau rhoi adborth a pham maent yn hollbwysig, cyn symud ymlaen at y fformat a’r dechneg  ar gyfer llwyddiant.

 

Nodau ac amcanion:

  • Ystyried beth yw diffiniad sgwrs hollbwysig
  • Pam mae adborth yn bwysig
  • Pam rydym yn poeni am adborth a’r sgiliau wrth dderbyn adborth.

 

Dyddiadau:

Dydd Mawrth 24/01/2023 am 7pm

Dydd Mercher 21/06/2023 am 7pm

 

Cofrestrwch drwy ddefnyddio’r Cod QR uchod