Neidio i'r prif gynnwy
Julie Rogers

Dirprwy Brif Weithredwr / Cyfarwyddwr y Gweithlu

Amdanaf i

Dirprwy Brif Weithredwr / Cyfarwyddwr y Gweithlu

Yn gymrawd siartredig o'r CIPD, mae Julie wedi gweithio yn sector cyhoeddus Cymru am dros 35 mlynedd.

Mae hi wedi mwynhau gyrfa amrywiol ar draws ystod eang o rolau datblygiad polisi cymdeithasol, datblygiad sefydliadol ac adnoddau dynol. Yn 2013, daeth Julie yn Gyfarwyddwr Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol Cenedlaethol ar gyfer GIG Cymru, rôl a ddaliodd tan Ebrill 2018 pan ymunodd â AaGIC.

Yn ystod ei daliadaeth, bu’n goruchwylio datblygiad y cynllun cenedlaethol cyntaf ‘Cynllun Gweithlu Gofal Sylfaenol ar gyfer Cymru’ ac ymgyrch recriwtio arloesol GIG Cymru ‘Dyma Gymru. HyfforddiGweithioByw’, gyda’r nod o recriwtio mwy o hyfforddeion, meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol i Gymru.