Neidio i'r prif gynnwy
Sian Richards

Cyfarwyddwr Datblygiad Digidol

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Datblygiad Digidol

Ymunodd Sian â'r GIG yn 2002 fel Rheolwr Adnoddau Dynol. Ers hynny mae hi wedi dal nifer o rolau amrywiol yn y GIG gan gynnwys rheoli rhaglenni gwella gwasanaethau, a rolau rheoli gweithredol a chyffredinol ar draws gwasanaethau acíwt, sylfaenol a chymunedol.

Yn 2010, ymunodd â'r Gyfarwyddiaeth Ddigidol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gyda chyfrifoldeb am ystod o adrannau a systemau digidol, llywodraethu gwybodaeth, cofnodion iechyd, codio clinigol ac ansawdd data. Penodwyd Sian yn Ddirprwy Brif Swyddog Digidol yn 2018 gyda chyfrifoldeb am strategaeth ddigidol, gan gynnwys rhaglenni lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
 
Yn 2021 fe'i penodwyd i rôl Cyfarwyddwr Datblygiad Digidol yn AaGIC ar secondiad dwy flynedd. Gwnaed hyn yn barhaol yng ngwanwyn 2022.