Neidio i'r prif gynnwy

Adleoli ac ad-daliad

Fel rhan o'ch hyfforddiant i ddod yn feddygon a deintyddion, gallwch symud o un Darparwr Addysg Leol (LEP) i un arall er mwyn cael ystod eang o hyfforddiant a phrofiad. Gall hyn olygu symud o fewn Cymru neu weithiau, y tu allan i Gymru.

Gall cylchdroi i wahanol leoliadau hyfforddi fod yn straen a chreu baich ariannol diangen.

Bydd ein polisi ad-dalu adleoli yn helpu i sicrhau nad ydych yn wynebu anfantais ariannol ychwanegol os bydd yn rhaid i chi adleoli neu deithio i leoliad hyfforddi pellach yn ddaearyddol.

Dogfen ac adnoddau defnyddiol: