Neidio i'r prif gynnwy

E-ddysgu'r GIG

Abstraction of an e-learning platform

E-ddysgu’r GIG ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes deintyddiaeth yng Nghymru

Mae adran ddeintyddol Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch iawn o rannu porth penodol ar gyfer Timau Gofal Deintyddol Sylfaenol yng Nghymru i gael mynediad at feysydd dysgu ar-lein allweddol i ategu eu Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).

Gellir mynd at y porth drwy glicio ar y ddolen hon: E-ddysgu'r GIG ar gyfer timau deintyddol gofal sylfaenol

Mae canllaw i ddefnyddwyr ar gael i roi arweiniad cam wrth gam i gael mynediad at y system a’i defnyddio.

Mae llwyfan e-Ddysgu'r GIG wedi hen ennill ei blwyf ac mae'n cynnal amrywiaeth o fodiwlau ar gyfer staff y GIG ledled Cymru. Mae adran Ddeintyddol AaGIC wedi gweithio gyda chydweithwyr ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NHSWSSPS) i greu ardaloedd pwrpasol i dimau Deintyddol Gofal Sylfaenol gael gafael ar bynciau penodol. Ychwanegir at y rhain wrth i ragor o fodiwlau priodol gael eu pennu a dod ar gael.

Dyma restr o’r modiwlau sydd ar gael ar hyn o bryd:

Diogelu
  • Modiwl y GIG ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • Diogelu oedolion lefel 1
  • Diogelu oedolion lefel 2
  • Diogelu plant lefel 1
  • Diogelu plant lefel 2
  • Ymwybyddiaeth o ddementia
Iechyd a diogelwch
  • Cadw’n ddiogel rhag ymbelydredd
  • Diogelwch tân
  • Dadebru
  • Codi a chario lefel A
  • Trais ac ymddygiad ymosodol A
  • Iechyd a Diogelwch Lefel 1
Diheintio a dadhalogi
  • Y frech goch, clwy’r pennau a rwbela
  • Ffliw 1 – Gwybodaeth i Bawb
  • Atal a Rheoli Heintiau Lefel 2
  • Atal a Rheoli Heintiau Lefel 1
  • Techneg Aseptig Dim Cyffwrdd
Cyfreithiol a moesegol
  • Fy Nhrin yn Deg
  • Rhoi Trefn ar Bethau
  • Llywodraethiant a Gwybodaeth
Gwella ansawdd
  • Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif

Yn unol â gofynion DPP y cyngor deintyddol cyffredinol, eich cyfrifoldeb chi yw dewis DPP sy'n bodloni'r gofynion ar gyfer gweithgarwch gwiriadwy.

Chi hefyd sy’n gyfrifol am gael hyd i’r dystiolaeth ddogfennol (e.e. tystysgrifau) sy’n ofynnol ar gyfer eich cofnod DPP a chadw’r dystiolaeth honno.

Dylech ddefnyddio eich crebwyll proffesiynol i benderfynu a ydych chi’n credu bod y gweithgarwch DPP rydych chi wedi’i gwblhau yn bodloni’r gofynion ar gyfer DPP y mae modd ei ddilysu. Efallai y bydd angen datblygiad proffesiynol parhaus ychwanegol arnoch i ategu'r modiwlau e-ddysgu os gwelwch nad ydynt yn ddigonol i ddiwallu eich anghenion.

Gobeithio y bydd y modiwlau a’r llwyfan e-ddysgu yn ddefnyddiol ac yn hwylus i chi ac y byddant o fudd i’ch dysgu a’ch datblygiad proffesiynol.

Yr Adran ddeintyddol, AaGIC