Neidio i'r prif gynnwy

Mentora a chefnogaeth

Grŵp optometreg

Ar hyn o bryd mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cynnig mentora a chefnogaeth i optometryddion sydd newydd gymhwyso. Dyma'r tro cyntaf yn y DU i sefydliad annibynnol gynnig y gefnogaeth hon.

Nod y prosiect hwn yw cefnogi optometryddion sydd newydd gymhwyso i roi'r hyder a'r offer iddynt wella eu harfer. Neilltuir Mentor dynodedig i bob optometrydd ac mae ganddo fynediad i blatfform ar-lein ar gyfer portffolios a rhyngweithio, grŵp cymorth cymheiriaid, sesiynau wyneb yn wyneb adolygiad cymheiriaid a gweminarau. Disgwylir i'r peilot hwn ddod i ben yn ystod Haf 2020.

Yn flaenorol, prin fu'r gefnogaeth i optometryddion ar ôl iddynt gymhwyso. Awgryma ymchwil bod hyn yn eu gwneud yn fwy agored i risg ac yn debygol o atgyfeirio cleifion yn ddiangen i'r ysbyty.

Mae tystiolaeth hefyd bod niferoedd cynyddol o optometryddion yn gadael eu gyrfaoedd cyn pen tair blynedd ar ôl cymhwyso. Mae AaGIC wedi gweithredu i wneud newidiadau cadarnhaol trwy gyflwyno rhaglen beilot mentoriaeth beilot.

Bydd y gefnogaeth hon nid yn unig yn rhoi mecanwaith i drafod achosion a gwneud penderfyniadau clinigol gyda mentor profiadol, ond bydd hefyd yn darparu arwyddbyst ar gyfer llenyddiaeth glinigol ddefnyddiol a chyngor gyrfa. Dyluniwyd y platfform ar-lein mewn partneriaeth ag uned cymorth ailddilysu AaGIC.

Ar adeg pan mae hyder a phrofiad clinigol yn dal i ddatblygu, mae'r gefnogaeth ychwanegol hon ar gyfer optometryddion sydd newydd gymhwyso yn rhoi'r hyder a'r offer iddynt wella eu hymarfer, gan fod o fudd uniongyrchol i ofal cleifion.

Cyfweliad â Hannah Jones

Optometrydd newydd gymhwyso yng Nghymru, ac un o'r cyntaf i dderbyn y gefnogaeth fentora:

C: Pam mae cefnogaeth bellach gan fentor yn bwysig i chi barhau â’r gyrfa?
A: Mewn unrhyw alwedigaeth gofal iechyd, credaf eich bod yn dysgu yn barhaus yn sgil ymchwil newydd a phrofiadau pobl eraill. Bydd cael mentor yn caniatáu imi weld dull ymarfer optometrydd arall a chreu un fy hun. Rwy'n credu y gallai'r gefnogaeth hon fod yn fuddiol iawn i optometryddion y dyfodol.
C: Pam wnaethoch chi benderfynu defnyddio'r gwasanaeth mentora?
A: Mae'r cyfnod pontio rhwng cyn gofrestru a bod yn optometrydd cwbl gymwys yn ddigon i hala ofn arna chi. Mae'n galonogol cael mentor y gallwch fynd ato i drafod eich penderfyniadau a gofyn sut y gallech wella yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at gael rhywfaint o gyngor ar sut y gallaf ddatblygu fy nyfodol ac ennill cymwysterau pellach.

Mae'r optometryddion sydd newydd gymhwyso yn cael eu mentora gan diwtoriaid optometrig o Ganolfan Addysg Ôl-raddedig Optometreg Cymru (WOPEC) (dolen i wefan www.wopec) dan oruchwyliaeth Sharon Beatty a Nik Sheen (ddim yn siŵr a oes gennych gysylltiadau â manylion unigolion) ar y cyd â'r tîm cymorth Ail-ddilysu AaGIC.

Cynhelir y gwerthusiad annibynnol gan Yr Athro Professor Alison Bullock yn CureMed ym Mhrifysgol Caerdydd.