Mae ymchwil diweddar wedi dangos y gall optometryddion newydd gymhwyso orgyfeirio. Ar adeg pan fo hyder a phrofiad clinigol yn dal i ddatblygu, gall llwyth gwaith cynyddol ar ben cymhwyso arwain at bwysau i wneud penderfyniadau cyflymach a mwy gwrth-risg, ac o ganlyniad byddent atgyfeirio’n fwy na’r angen. Bydd Mentor, rwydwaith cymorth cymheiriaid a chyfleoedd i gymryd rhan mewn adolygiad gan gymheiriaid yn magu hyder ac yn galluogi optometryddion newydd gymhwyso i dderbyn lefel briodol o risg glinigol.
Mae mentora yn hwyluso DPP trwy rwydwaith o optometryddion profiadol sy'n arwain optometryddion newydd gymhwyso. Mae mentora yn ystyried eu cwmpas ymarfer ar gyfer gofynion DPP yn ogystal â darparu cymorth ac arweiniad. Mae cymorth mentora yn cynnwys Mentor dynodedig, llwyfan ar-lein i greu portffolio a rhwydwaith cymorth gan gymheiriaid. Mae angen cymorth ar optometryddion pan fyddant yn ymgymryd â rolau clinigol ychwanegol ac, yn hollbwysig, yn eu galluogi i ddod yn fwy medrus wrth reoli a derbyn risg glinigol. Mae’r Fforwm Cymorth Rhagnodwyr Annibynnol Newydd Gymhwyso yn fenter gan AaGIC, a ddechreuwyd yn 2023 sy’n mynd i’r afael â’r angen hwn, ac mae wedi cael ymateb da gan y proffesiwn.
Optometrydd newydd gymhwyso yng Nghymru, ac un o'r cyntaf i dderbyn y gefnogaeth fentora:
Mae'r optometryddion sydd newydd gymhwyso yn cael eu mentora gan diwtoriaid optometrig o Ganolfan Addysg Ôl-raddedig Optometreg Cymru (WOPEC) (dolen i wefan www.wopec) dan oruchwyliaeth Sharon Beatty a Nik Sheen (ddim yn siŵr a oes gennych gysylltiadau â manylion unigolion) ar y cyd â'r tîm cymorth Ail-ddilysu AaGIC.
Cynhelir y gwerthusiad annibynnol gan Yr Athro Professor Alison Bullock yn CureMed ym Mhrifysgol Caerdydd.