Neidio i'r prif gynnwy

Ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd recriwtio mewn gofal sylfaenol brys yng Nghymru

Mae ymgyrch wedi'i lansio yr wythnos hon i roi gwybodaeth i weithwyr meddygol proffesiynol am weithio ym maes gofal sylfaenol brys yng Nghymru.  Mae'r safle yn hyrwyddo'r manteision, yn taclo'r mythau, ac yn hysbysebu swyddi gwag presennol.

Nod yr ymgyrch yw denu mwy o feddygon teulu, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill (clinigol ac anghlinigol) o bob rhan o Gymru i ofal sylfaenol brys. Mae'r wefan yn cynnwys astudiaethau achos gan gydweithwyr sydd wedi sôn am pam y dewisasant weithio mewn gofal sylfaenol brys ac sy'n cynnig gwybodaeth ac arweiniad sy'n hawdd cael gafael arnynt.

Dywedodd Dr Alice Groves, Cyfarwyddwr Clinigol y Tu Allan i Oriau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan;

"Nod yr ymgyrch hon yw codi ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth o rolau ym maes gofal sylfaenol brys (y tu allan i oriau) ac annog pobl i feddwl am ymuno â ni, gobeithio. 

"Mae gofal sylfaenol brys yn lle bendigedi i weithio gan fy mod yn gweithio gyda thîm amlddisgyblaethol gwych o bobl, gan weithio oriau hyblyg i gyd-fynd â'm bywyd cartref. Mae hefyd yn rhoi llawer o gyfleoedd i mi ddysgu sgiliau newydd ac i ddilyn fy ngyrfa".

Bydd y wefan hefyd yn darparu gwybodaeth ac adnoddau i gefnogi datblygiad gyrfa a hyfforddiant parhaus.