Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghoriad Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Genomeg nawr yn fyw

Wedi'i gyhoeddi ddydd Llun 22 Ebrill 2024

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn gofyn am adborth ar gyfres o gamau gweithredu a ddatblygwyd fel rhan o'r Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Genomeg.

Mae’r gweithlu genomig arbenigol a gweithlu anarbenigol ehangach GIG Cymru yn cael eu hannog i roi adborth ar y camau gweithredu arfaethedig erbyn 27 Mai 2024.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn garreg filltir allweddol yn natblygiad y Cynllun Gweithlu Strategol, sy'n cael ei arwain gan AaGIC mewn partneriaeth â Phartneriaeth Genomeg Cymru (GPW).

Bydd Genomeg yn chwarae rhan arwyddocaol wrth ddarparu gofal iechyd yn y dyfodol. Bydd yn helpu pawb i ddeall mwy am salwch a chlefydau ac yn galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddatblygu ymagweddau wedi'u targedu at driniaeth a gofal cleifion.

Mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu i:

  • sicrhau bod gan GIG Cymru weithlu genomeg arbenigol cadarn sy’n cael ei gefnogi’n dda
  • rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar weithlu ehangach GIG Cymru i addasu i ddatblygiad cyflym meddygaeth genomig a’r effaith a gaiff hyn ar ymarfer clinigol ar draws pob maes gofal iechyd
  • sicrhau bod genomeg yn cael ei integreiddio’n effeithiol ar draws y ddarpariaeth iechyd a gofal prif ffrwd yn GIG Cymru.

Unwaith y bydd y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben, bydd y Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Genomeg yn cael ei gwblhau a'i gyflwyno i Fwrdd Partneriaeth Genomeg Cymru i'w gymeradwyo yr haf hwn.

Dywedodd Dr Nicki Taverner, Arweinydd Clinigol Genomeg yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru:

"Er bod llawer o’r camau gweithredu’n berthnasol i’r gweithlu genomeg arbenigol, mae angen dull system gyfan er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i gleifion o ran genomeg.

"Felly, mae camau gweithredu allweddol hefyd wedi’u datblygu i addysgu, hyfforddi ac ysbrydoli gweithlu ehangach y GIG i ddod yn bartneriaid gweithredol wrth ddarparu gofal iechyd genomig i bobl Cymru, er mwyn gwireddu ei llawn botensial.

“Waeth beth yw eich maes ymarfer arbenigol, a fyddech cystal â chymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Mae eich mewnbwn yn amhrisiadwy i sicrhau bod y cynllun terfynol yn addas at y diben.”

I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygiad y cynllun hyd yma, ewch i'n tudalen we Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Genomeg.