Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghoriad ar y strategaeth datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ar gyfer GIG Cymru


 

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn ymgynghori ar y strategaeth datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) cyntaf ar gyfer GIG Cymru.

Fe'ch gwahoddir i weld strategaeth DPP AaGIC a chwblhau'r holiadur ymgynghori hwn.

Yr ymrwymiad i ddarparu gofal o ansawdd uchel yw gwerth craidd cyntaf GIG Cymru, ac mae galluogi ein gweithlu i ddangos y gwerth hwn yn gofyn am ddiwylliant o ddysgu, gwelliant a thwf parhaus - dylai DPP fod wrth galon diwylliant ein sefydliadau, er mwyn rhoi cyfle i weithwyr, y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i ddysgu a thyfu, ac i wasanaethau ddarparu iechyd a gofal o ansawdd uchel.

Mae'r strategaeth yn nodi'r weledigaeth, yr uchelgais a'r egwyddorion lefel uchel ar gyfer rhagoriaeth mewn DPP. Bydd y dystiolaeth a ddefnyddir i gefnogi'r strategaeth yn galluogi newid o ddulliau traddodiadol i ddulliau mwy modern o ddatblygu a chyflwyno DPP gan arwain at hyrwyddo diwylliannau dysgu mwy aeddfed o fewn sefydliadau.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg am XX wythnos. Bydd yn cau ar ddiwedd 10/05/2024