Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb wedi'i ddiweddaru ynghylch myfyrwyr nyrsio yn ei ail flwyddyn

 

Isod mae diweddariad i'n hymateb cychwynnol a bostiwyd ar 23 Ebrill 2020.

 

Dywedodd Stephen Griffiths, Cyfarwyddwr Nyrsio AaGIC:

Oherwydd y sefyllfa ddigynsail yr ydym yn ei hwynebu, yn anffodus, nid yw'n bosibl i brifysgolion barhau â rhaglenni addysgol yn ôl yr arfer. O ganlyniad, mae myfyrwyr wedi cael nifer o opsiynau i symud ymlaen gan gynnwys derbyn lleoliadau clinigol cyflogedig ar gyfer myfyrwyr, parhau â'u hastudiaethau addysgol nyrsio mewn amgylchedd academaidd neu mewn sefyllfaoedd prin yn dewis cael egwyl yn eu rhaglen addysg.

Mae prifysgolion wedi bod yn rhoi cymorth ac arweiniad i fyfyrwyr o ran yr holl opsiynau er mwyn sicrhau bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud eu penderfyniad gwybodus eu hunain.  Ni orfodwyd unrhyw fyfyriwr mewn unrhyw fodd i ymgymryd â lleoliad gwaith, i barhau â'i astudiaethau nac i ohirio ei ddysgu.

Mae'r wybodaeth gychwynnol yn dangos bod bron pob un o'r myfyrwyr wedi dewis naill ai derbyn lleoliad cyflogedig ar gyfer myfyrwyr mewn lleoliad clinigol neu barhau â'u hastudiaethau addysgol.  Am resymau personol, mae nifer fach iawn o fyfyrwyr wedi dewis gohirio eu hastudiaethau.

Astudiaethau academaidd parhaus

Rydym yn llwyr werthfawrogi a deall oherwydd sefyllfaoedd personol nad yw rhai myfyrwyr yn gallu gwneud lleoliad clinigol. Mae'r myfyrwyr hyn yn parhau i fod yn aelodau gwerthfawr o'r gymuned gofal iechyd ac rydym yn awyddus iddynt barhau â'u dysgu yn ystod y cyfnod hwn. Mae nifer o opsiynau dysgu ar gael iddynt y mae'r prifysgolion wedi'u nodi ac a fydd yn cyfrannu at eu gradd derfynol. Bydd myfyrwyr hefyd yn parhau i dderbyn eu bwrsariaeth oni bai eu bod yn dewis tarfu ar eu hastudiaeth.

Gyda'r opsiynau dysgu sydd ar gael mae'n anghyffredin i fyfyriwr roi eu hastudiaethau ar saib ac rydym bob amser yn drist i weld hyn yn digwydd. Pan fydd hynny'n digwydd, bydd prifysgolion yn parhau i gefnogi myfyrwyr, yn trafod opsiynau y tu allan i ddysgu, ac yn eu helpu i ddychwelyd i addysg cyn gynted â phosibl os dymunant ddychwelyd.

Lleoliadau clinigol myfyrwyr

Rydym yn ddiolchgar iawn i'r 2000+ o fyfyrwyr sydd wedi dewis cymryd lleoliad clinigol ac wedi cael eu llethu gan eu brwdfrydedd i ymuno â chydweithwyr yn ystod yr argyfwng hwn.

Mae eu diogelwch a'u lles yn hynod o bwysig i bob un ohonom. Yn eu rôl gyflogedig, byddant yn parhau i weithio fel myfyrwyr ar sail lleoliad dysgu, gan weithio o fewn cymhwysedd eu galluoedd, dan oruchwyliaeth nyrs gymwysedig, ac yn cael eu cefnogi gan eu prifysgol. Ni fyddant yn ymgymryd â rôl nyrs gymwysedig neu dasgau sy'n uwch na'u lefel cymhwysedd.

Safle’r lleoliadau

Ar eu cais mae myfyrwyr wedi dweud ble y byddai'n well ganddynt weithio ac mae popeth posibl yn cael ei wneud i ateb y ceisiadau hyn.

Rydym yn ymwybodol bod rhai trigolion o Gymru yn astudio nyrsio mewn prifysgolion yn Lloegr a fyddai'n hoffi optio i mewn yng Nghymru, yn nes at adref, yn hytrach nag yn Lloegr. Yr ydym yn gwneud popeth a allwn i helpu'r myfyrwyr hyn i ddychwelyd i Gymru ar gyfer eu lleoliad optio i mewn. 

Cefndir:

Ar ôl cyhoeddi datganiad y DU ar y cyd ynghylch myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth yn ystod yr ymateb COVID19, yng Nghymru, datblygodd LlC ac AaGIC ganllawiau i fyfyrwyr yn egluro beth mae'n ei olygu iddynt hwy ac opsiynau sydd ar gael er mwyn iddynt allu gwneud dewis gwybodus.

• Datblygwyd y datganiad ar y cyd ar safbwynt y DU ynghylch nyrsys a bydwragedd sy'n fyfyrwyr gan bedair adran Llywodraeth y DU, yr NMC, Prifysgolion a Chyrff Proffesiynol/Undebau Llafur. Mae ar gael yn https://www.nmc.org.uk/globalassets/sitedocuments/other-publications/joint-statement-update-for-students-not-in-final-six-months-of-programme-covid-19-outbreak.pdf

• Ceir canllawiau ar y datganiad hwn a gyhoeddwyd gan AaGIC a LlC ac sy'n cynnwys undebau llafur, rheoleiddwyr, prifysgolion a'r GIG yn https://heiw.nhs.wales/files/covid-19-nursing-and-midwifery-support-guidance/