Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb AaGIC i COVID-19: datganiad addysg a hyfforddiant

Rydym yn cymryd rhan weithredol yn yr ymateb cynllunio brys i argyfwng iechyd cyhoeddus presennol COVID-19. Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw defnyddio ein harbenigedd a'n hadnoddau i gefnogi gwasanaethau rheng flaen y GIG yng ngoleuni'r galwadau cynyddol gan y pandemig, a chynnal diogelwch a lles ein staff a'n dysgwyr ledled Cymru.

Yn unol â Chyngor y Llywodraeth, er mwyn diogelu ein staff a'r cyhoedd rydym wedi cau ein swyddfeydd am y tair wythnos nesaf.  Mae staff AaGIC yn gweithio gartref ac yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg i redeg ein busnes fel rhith-sefydliad. Rydym wedi adolygu'r IMTP a'r rhaglenni gwaith ac wedi oedi'r holl waith nad yw'n hanfodol i ganolbwyntio ar barhad busnes a chefnogi'r ymateb i COVID-19.

Ein swyddogaeth fwyaf allweddol yw addysg a hyfforddiant, yn enwedig lle mae hyfforddeion a dysgwyr yn rhan annatod o'r gweithlu.  Bu'n rhaid inni wneud newidiadau ac addasiadau i raglenni hyfforddi mewn amryw o ffyrdd ac yr ydym yn ddiolchgar am gydweithrediad yr hyfforddeion, yr hyfforddwyr a'n staff i'n helpu i ymateb yn gyflym ac yn effeithlon.

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar adleoli hyfforddeion i helpu byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i ddefnyddio'r gweithlu yn y ffordd orau.  Fodd bynnag, gwerthfawrogwn y gall fod anawsterau o ran dulliau gweithredu newydd ac yn y sefyllfaoedd hynny anogwn hyfforddeion i siarad ag uwch aelod o staff yn y sefydliad sy'n eu cyflogi neu i gysylltu â Swyddfa'r Deon ôl-raddedigion yn AaGIC. Mae ein huned cymorth proffesiynol yn parhau i fod ar gael i hyfforddeion hefyd.

Rydym wedi lleihau meysydd allweddol o'n gwaith i roi sylw ac adnoddau i'n cynllun ymateb i COVID-19, er enghraifft, mae gwaith rheoli ansawdd rheolaidd wedi cael ei symleiddio neu ei ohirio ac rydym yn rheoli unrhyw bryderon penodol ar sail unigol fel y bo'n briodol.

Yn unol â phellterau cymdeithasol mae'r holl recriwtio arbenigol wyneb yn wyneb wedi cael ei ganslo, gyda dewisiadau rhithwir yn cael eu datblygu i osgoi amharu ar benodiadau ym mis Awst 2020.

Gyda'n partneriaid yn y tri Chorff Addysg Statudol arall yn y DU, rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar ARCP yn amlinellu'r lefel sylfaenol o ymgysylltu sydd ei hangen i sicrhau y gall y broses ARCP fynd rhagddi eleni gyda'r effaith leiaf bosibl ar ymateb COVID-19.

Wrth i'r argyfwng presennol ym maes iechyd y cyhoedd ddatblygu, rydym yn ymwybodol o'r effaith y gall oedi mewn hyfforddiant ac addysg ei chael ar y gweithlu wrth symud ymlaen. Yn ogystal â chymryd camau ar unwaith i gefnogi GIG Cymru heddiw, rydym hefyd yn asesu pa gamau y mae angen i ni eu cymryd yn awr i leihau'r effaith ar addysg, hyfforddiant a'r gweithlu pan fydd yr argyfwng hwn ar ben. Rydym yn gweithio'n agos gyda rheoleiddwyr, prifysgolion, sefydliadau'r GIG a chyflogwyr ar gynlluniau wrth gefn i liniaru risgiau cymaint â phosibl tra'n parhau i gefnogi gofal a gwasanaethau cleifion.

O ystyried datganiadau diweddar ynghylch myfyrwyr ar draws ystod o grwpiau proffesiynol, byddwn yn parhau i gysylltu â myfyrwyr a sefydliadau addysg uwch i reoli effaith newidiadau i raglenni. 

Byddwn yn parhau i ddiweddaru ein gwefan wrth i gynlluniau gael eu datblygu ac wrth i wybodaeth newydd ddod ar gael.