Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Llythrennedd Genomeg

Isdeitlau Cymraeg ar gael.

Published 11/12/2023

Mae heddiw yn nodi dechrau Wythnos Llythrennedd Genomeg (11-15 Rhagfyr). 

Nod yr ymgyrch, a gynhelir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yw codi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o'r manteision y gall genomeg eu cynnig i ofal cleifion.

Datblygwyd llyfryn ymgyrch ddigidol, sy'n cynnwys cyflwyniad byr i genomeg, cyfleoedd dysgu i staff y GIG, fideos, adnoddau defnyddiol a mwy.

Drwy gydol yr wythnos, mae AaGIC yn cynnal cyfres o weminarau amser cinio ar-lein ar gyfer staff sy'n gweithio ar draws GIG Cymru. I ymuno â gweminar, e-bostiwch heiw.genomics@wales.nhs.uk am fanylion ymuno.

Dyddiad Amser Gweminar
Dydd Llun 11 Rhagfyr  1.00-1.30pm Sut y gall genomeg helpu'ch ymarfer/ cleifion, gyda Dr Nicki Tavener
Dydd Mawrth 12 Rhagfyr  1.00-1.30pm Sut i ofyn am brawf genomeg, gyda Dr Jon Hawken
Dydd Mercher 13 Rhagfyr  1.00-1.30pm Deall canlyniadau profion genomig a'r camau nesaf, gyda Dr Ian Tully
Dydd Iau 14 Rhagfyr 1.00-1.30pm Dyfodol Genomeg, gyda Dr Nicki Tavener
Dydd Gwener 15 Rhagfyr  1.00-1.30pm Ffarmacogenomeg, gyda Dr Sophie Harding


Beth yw genomeg?

Genomeg yw astudiaeth y genom - y DNA sy'n cynnwys y cyfarwyddiadau ar gyfer sut mae ein cyrff yn tyfu, datblygu a gweithredu. Mae genyn yn rhan fer o DNA sy'n dweud wrth y corff sut i wneud protein sydd ei angen ar ein corff.

Gall gwahaniaethau yn ein genom achosi cyflyrau genetig, neu effeithio ar ein siawns o ddatblygu afiechydon. Maen nhw'n newid y ffordd rydyn ni'n ymateb i feddyginiaeth ac yn dylanwadu ar bob agwedd o'n hiechyd. Mewn clefyd heintus, bydd gwahaniaethau yn y genom yn effeithio ar ba mor hawdd y gall organeb ledaenu ac a fydd gwrthfiotigau ac asiantau eraill yn effeithio arno.


"Ond dw i ddim yn gweithio mewn genomeg?" Nid yw hynny'n bwysig. 

Mae datblygiadau cyflym wrth astudio'r genom dynol yn darparu cyfleoedd enfawr i ofal iechyd, waeth beth yw eich maes ymarfer clinigol. Ni ellir gwireddu'r budd sylweddol hwn i gleifion yn GIG Cymru heb uwchsgilio pawb sy'n rhan o'n gweithlu gofal iechyd i alluogi integreiddio mwy o genomeg i lwybrau cleifion.

Am fwy o wybodaeth am ein gwaith yn y maes hwn, ewch i'n tudalen we Genomeg.