Neidio i'r prif gynnwy

Tynnu sylw at nyrsio iechyd meddwl

Er mwyn rhoi mewnwelediad i chi ar nyrsio iechyd meddwl, fe wnaethom gyfweld tri gweithiwr nyrsio iechyd meddwl proffesiynol am eu profiadau a’u safbwyntiau.

Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys Barry Starmer, darlithydd iechyd meddwl ym Mhrifysgol Bangor, Lisa Kinsella, darlithydd iechyd meddwl ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Russell Jones darlithydd ym Mhrifysgol Wrecsam.

Roedd y cwestiynau'n ymdrin ag amrywiaeth eu profiadau, a dyma'r uchafbwyntiau.

 

Oeddech chi'n nerfus am eich lleoliad cyntaf? Sut aeth hi? Oeddech chi'n hollol barod?

Dywedodd Barry:

“Roeddwn i’n sicr yn nerfus, ond hefyd yn gyffrous. Rwy'n meddwl ei fod yn rhan hanfodol o'r broses. Dydw i ddim yn meddwl eich bod chi byth yn teimlo'n gwbl barod, ond roeddwn i'n teimlo fy mod yn cael cefnogaeth ac yn ddiogel. Dros amser tyfodd hyder gyda fy mhenderfyniadau.”

 

Ym mha ffyrdd y mae eich profiad o nyrsio iechyd meddwl wedi newid eich canfyddiad?

Dywedodd Lisa:

“Ar ôl gweld yr anobaith y mae eraill yn ei wynebu ar adegau, teimlaf yn wylaidd iawn ac yn ddiolchgar am fy mywyd. Teimlaf llawer o barch tuag eraill, eu teimladau, eu credoau, a’u gwahaniaethau, a sut y gall gweithredoedd syml o garedigrwydd, parch a gonestrwydd mewn gwirionedd cael effaith gadarnhaol.”

 

Sut ydych chi'n teimlo am y cleifion rydych chi wedi gweithio gyda nhw?

Dywedodd Barry:

“Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn o gael mewnwelediad i mewn i fywyd preifat cymaint o bobl, gan eu helpu i oresgyn eu trallod a’u poen. Mae gen i lawer o atgofion melys o'r holl bobl rydw i wedi'u helpu dros y blynyddoedd. Dwi’n teimlo bod rhyw ran ohonof i dal gyda phob un ohonyn nhw.”

Dywedodd Lisa:

“Rwy’n teimlo anrhydedd mawr i fod yn y sefyllfa lle gallent ymddiried ynof gyda’u profiadau a’u meddyliau mwyaf trallodus ac am eu bod yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a roddais iddynt, a’u bod wedi gallu symud ymlaen yn eu bywydau. Rydw i wedi dysgu cymaint gan y bobl rydw i wedi cwrdd â nhw a gobeithio wedi dod yn well bod dynol oherwydd hynny.”

 

Beth yw'r pethau pwysig i'w gwybod a'u cofio wrth nyrsio iechyd meddwl?

Dywedodd Barry:

“Rwy’n meddwl y tu hwnt i unrhyw beth arall yw’r weithred syml o ofalu a bod yn wirioneddol yno am rywun, i wrando arnynt, ceisio eu deall gyda thosturi, a bod gyda nhw gyda gobaith. Mae hyn yn aml yn well na’r holl weithgarwch therapiwtig technegol yn y byd os nad oes ganddo’r rhinweddau hyn.” 

Dywedodd Lisa:

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n wirioneddol bwysig cofio nad oes ‘ni a nhw’, rydyn ni i gyd yn agored i delio â phroblem iechyd meddwl.”

 

Beth yw eich ymateb i sut mae salwch meddwl yn cael ei bortreadu yn y cyfryngau?

Dywedodd Barry:

"Rwy’n obeithiol gan  fy mod yn gweld bod y cyhoedd yn dod yn ddigon ymwybodol ac  yn aml yn cymryd cyflwyniadau’r cyfryngau gyda phinsiad o halen.”

 

Beth hoffech chi ei ddweud wrth unrhyw un sy'n ystyried mynd i nyrsio iechyd meddwl?

Dywedodd Lisa:

“Mae gennych chi gyfle anhygoel i arloesi a newid y ffordd mae gwasanaethau’n cael eu cynnig yn y dyfodol er budd y bobl sydd eu hangen."

"Byddwch chi'n dysgu cymaint amdanoch chi'ch hun ac eraill, beth sy'n ein cymell a sut rydyn ni i gyd yn gweithredu, a byddwch chi'n cwrdd â phobl mor wahanol a rhyfeddol trwy eich gwaith a fydd yn eich effeithio’n gadarnhaol. Ond yn bennaf oll, os ydych chi wir eisiau byw bywyd ag ystyr, a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y byd hwn, yna dylech chi bendant ystyried nyrsio iechyd meddwl.”

Dywedodd Russell: 

“I’r rhai sy’n ystyried gwneud cais i fod yn nyrs iechyd meddwl byddwn yn dweud cer amdani, byddwch yn cael eich paratoi gan ddarlithwyr sy’n nyrsys iechyd meddwl eu hunain a byddant yn debygol o adnabod y staff a fydd yn eich goruchwylio ar leoliad clinigol. Os daw unrhyw anawsterau i'r amlwg bydd y ddwy ochr yn dod at ei gilydd i helpu i drafod pethau."

"Mae llawer o rolau ar gael i ddarpar fyfyrwyr, o weithio mewn unedau seiciatrig acíwt i glinigau cymunedol ochr yn ochr â meddygon teulu, o seiciatreg y glasoed i’r henoed, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau i anhwylderau bwyta, nyrsio iechyd cyhoeddus i weithio ym maes cyfiawnder troseddol."

"Mae cymaint o gyfleoedd i staff nawr ac yn y dyfodol gan fod GIG Cymru yn buddsoddi’n sylweddol mewn gwasanaethau. Er enghraifft, bydd cyfleuster cleifion mewnol iechyd meddwl newydd a mwy ar safle Ysbyty Glan Clwyd yn debygol o agor y flwyddyn nesaf a bydd angen gweithwyr proffesiynol hyfforddedig arnynt i fod yn rhan ohono. Mae gwasanaethau cymunedol hefyd yn cael eu hehangu gan gydnabod y cynnydd yn y galw."

Dywedodd Barry:

“Mae’r her [nyrsio iechyd meddwl] yn dod â thwf personol. Mae nyrsio IM yn weithgaredd o welliant parhaus o ran sgiliau a hunan. Rwyf wedi teimlo’n aml fel ffugiwr, ac mae’n debyg mai’r elfen hon sydd wedi fy herio fwyaf."

“Mae [nyrsio iechyd meddwl] yn newid bywyd. Mae'n gwbl werth chweil. Gofynnwch i chi'ch hun a oes unrhyw beth mwy gwerth chweil na helpu person arall allan o drallod. Yna dychmygwch wneud hyn ar gyfer nifer o bobl dros amser, dyna beth rydych chi'n ei alw'n foddhad bywyd."