Neidio i'r prif gynnwy

Technegydd fferyllfa leol yn ennill gwobr prentis Cymru

Cyhoeddwyd neithiwr mai Kiera Dwyer, Technegydd Cyn-gofrestru dan hyfforddiant, un o garfan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) 2020 yw Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru.

Mae AaGIC yn cyflwyno Fframwaith Prentisiaeth Fodern mewn Gwasanaethau Fferylliaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan ALS Training. Ar hyn o bryd mae 85 o dechnegwyr fferyllol cyn-gofrestrig yn gweithio mewn sectorau amrywiol o ymarferion fferyllol ledled Cymru yn cwblhau’r brentisiaeth. Mae hwn yn llwybr annatod ar gyfer cynyddu’r gweithlu Technegwyr Fferylliaeth yng Nghymru.

Mae’r technegydd fferyllol Kiera Dwyer wedi dangos penderfyniad, ymroddiad ac ymrwymiad i gyflawni cyfres o gymwysterau i gefnogi’r fferyllfa gymunedol lle mae’n gweithio yn Abercynon.  Mae Kiera, 24, o Rydyfelin, Pontypridd, â Syndrom Asperger a Syndrom Irlen, a elwir hefyd yn straen gweledol, wedi cymryd cyfrifoldeb ychwanegol i ganiatáu mwy o amser i fferyllwyr yn Fferyllfa Sheppards, sy’n rhan o grŵp Avicenna, ymdrin â chleifion rheng flaen. Mae hyn wedi arwain at y fferyllfa yn cael sgôr o hyd at 100% gan gleifion.

Mae’r gwobrau’n amlygu cyflawniadau rhagorol, yn ystod cyfnod digynsail, gan gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Dywedodd Kiera “Roeddwn i eisiau prentisiaeth er mwyn gallu cymhwyso’r wybodaeth rwy’n ei dysgu, gan gynnwys sut y gall cyflyrau meddygol effeithio ar gleifion a sut mae gwahanol ddosbarthiadau cyffuriau mewn triniaethau yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd,” esboniodd Kiera.

“Fe wnes i oresgyn llawer o rwystrau i gwblhau fy mhrentisiaeth gan fod yr ods yn fy erbyn o’r cychwyn cyntaf. Er gwaethaf hyn, llwyddais i gyrraedd yr ochr arall ac nid yn unig cwblhau fy mhrentisiaeth ond hefyd fy nghymwysterau BTEC ac NVQ.”

Dywedodd Wendy Penny, Pennaeth Hyfforddiant Technegydd Fferylliaeth yn AaGIC “Mae Tîm Fferylliaeth AaGIC yn hynod o falch bod Kiera wedi’i henwi’n Brentis y Flwyddyn neithiwr. Mae hi’n dderbynnydd haeddiannol o’r Wobr ar ôl goresgyn heriau personol i gwblhau ei rhaglen hyfforddi tra’n parhau i weithio ar y rheng flaen mewn fferyllfa gymunedol yn ystod y pandemig.

“Trwy gydol y rhaglen hyfforddi arhosodd Kiera yn bositif ac yn benderfynol o lwyddo tra’n darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i’r gymuned lle bu’n gweithio.

Mae Kiera yn fodel rôl ac yn ysbrydoliaeth i unigolion sy’n cychwyn ar yrfa fel gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.”