Neidio i'r prif gynnwy

Tair ffordd gyflym o wella gofal iechyd yng Nghymru

Dydd Iau 7 Ebrill yw Diwrnod Iechyd y Byd. Felly, rydyn ni wedi cydgasglu rhai o'n hoff ‘gamau cyflym ymlaen’ y gallwch eu cymryd i wella gofal iechyd i bobl Cymru.

 

  1. Byddwch yn garedig

Mae astudiaethau wedi dangos bod pobl sy’n cael gofal tosturiol yn byw'n hirach. Rydyn ni hefyd yn ymwybodol fod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n arfer gofal tosturiol i gleifion ac arweinyddiaeth dosturiol yng ngŵydd eu cydweithwyr yn profi llai o straen, gorbryder ac iselder. Mae'r bobl hyn hefyd yn llawer mwy effeithiol o ran darparu gofal.

Gallwch ganfod rhagor am hyn ar ein gwefan a chan yr Athro Michael West .

 

  1. Addurnwch â phlanhigion

Mae gosod planhigion mewn lleoliadau gofal iechyd fel ysbytai neu glinigau meddygon teulu, yn lleihau poen. Mewn astudiaeth, cafodd trothwyon poen pobl eu rhoi ar brawf mewn dwy ystafell ysbyty unfath, ond roedd un ohonyn nhw ag ychwanegiad planhigion gwyrdd a blodeuol. Dangosodd yr astudiaeth, yn rhyfeddol, fod y pobl a oedd yn yr ystafell â natur yn gallu dygymod â phoen yn well. Yn sgil astudiaeth arall roedd tystiolaeth gref bod cleifion ysbyty’n gwella'n gyflymach os oes modd iddyn nhw weld natur drwy’u ffenestri, yn hytrach na maes parcio neu wal frics.

 

  1. Defnyddiwch y dull hwn:

Pwyllwch. Ystyriwch. Gweithredwch. Adolygwch. Mae hwn yn ddull y gallwch ei ddefnyddio i wella’ch darpariaeth gofal iechyd trwy hunan-wirio. Ennyd yn unig sydd ei angen arnoch i oedi a gofyn i chi’ch hun—a ydych chi'n barod ar gyfer y dasg sydd i ddod. Mae'n ffordd wych o leihau gwallau, asesu gwaith, adolygu canlyniadau, a gwella ansawdd.

 

Os oes gennych chi unrhyw ffyrdd eraill o wneud newidiadau bach a chyflym i wella darpariaeth gofal iechyd, anfonwch e-bost atom ni fel y gallwn ni helpu i ledaenu'r neges a pharhau i ddatblygu Cymru Iachach.