Neidio i'r prif gynnwy

Taflu goleuni ar ein system bresennol o diwtoriaid SAS yn AaGIC

Mae ein tîm SAS (Specialist, Associate Specialist and Specialty) yn darparu arweinyddiaeth ac yn hwyluso’r addysg, hyfforddi a dilyniant gyrfa ar gyfer holl feddygon a deintyddion SAS yng Nghymru. Mae’r tîm wedi’i gefnogi gan rwydwaith o Diwtoriaid SAS wedi’u lleoli ym mhob Bwrdd Iechyd ar draws Cymru, ac mae’r tiwtoriaid yn helpu i hwyluso hyfforddiant a dilyniant gyrfa ar gyfer meddygon SAS.

Mis yma dewch i gyfarfod Dr Nicola Allen, ein tiwtor SAS wedi’i lleoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae Nicola wedi bod yn diwtor SAS am ychydig mwy na tair blynedd nawr ac mae hi yma i’ch helpu.

Mae Dr Nicola Allen yn Feddyg Arbenigol mewn Llawfeddygaeth Gyffredinol, yn bresennol ar secondiad gyda Wroleg, a hefyd yn diwtor SAS ar gyfer Hywel Dda. Yn wreiddiol o Norfolk fe symudodd i Hywel Dda yn 2014 pan gymhwysodd Nicola fel Meddyg Sylfaen blwyddyn 1. Fe ddisgynnodd mewn cariad gyda Chanolbarth a Gorllewin Cymru fe benderfynodd aros a hyfforddi yn yr ardal, a symud Byrddau Iechyd am flwyddyn cyn dychwelyd i Hywel Dda. Nifer o flynyddoedd cyn hyn fe hyfforddodd Nicola yn wreiddiol fel Nyrs Iechyd Meddwl. Mae diddordebau Nicola yn cynnwys teithio, bywyd gwyllt, hanes a ffotograffiaeth.

Dros y ddwy flynedd diwethaf fel tiwtor SAS, fe gynyddodd Nicola y nifer o gyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaol (CPD) ar gyfer Meddygon SAS a Deintyddion o fewn Hywel Dda yn raddol. Mae'r rhain yn cynnwys cymysgedd o gyrsiau allanol wedi’u hariannu drwy AaGIC, hyfforddiant lleol mewnol a seminarau yn trafod pynciau yn ymestyn o ddiweddariadau clinigol i drafodaethau ymarferol am gyflogaeth. Yn Mehefin 2022, gyda help gan ein Canolfan Ôl-raddedig a’r holl siaradwyr oedd yn cymryd rhan, fe drefnodd Nicola Ddiwrnod Astudio SAS ar gyfer yr holl Fwrdd Iechyd yn canolbwyntio ar ‘Arweinyddiaeth’ ac fe ymunodd meddygon a deintyddion SAS o bob rhan o Gymru. Rydym yn gobeithio bydd yn ddigwyddiad blynyddol.

Fel tiwtor SAS, mae Nicola hefyd yn rhan o’r Grŵp Llywio Hywel Dda gydag amcan i weithredu’r Siarter SAS yn ogystal â syniadau ei hun am sut allai feddygon a deintyddion SAS ddatblygu yn well ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda a thu hwnt. Mae Nicola hefyd yn cynrychioli’r garfan SAS yng Ngrŵp Trefniadaeth Rheoli Meddyginiaethau Hywel Dda (MMOG).

Gall gysylltu gyda Nicola ar e-bost Nicola.Allen@wales.nhs.uk <mailto:Nicola.Allen@wales.nhs.uk>  am ragor o wybodaeth neu unrhyw gyfarwyddyd rydych ei angen fel meddyg neu ddeintydd SAS yng Nghymru.

Mae yno adnoddau a gwybodaeth bellach ar ein tudalennau gwe: https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/meddygon-sas/.