Neidio i'r prif gynnwy

Sylw i'n tîm presennol o diwtoriaid SAS yn AaGIC

Mae ein tîm SAS (Arbenigwyr, Arbenigwyr Cyswllt ac Arbenigeddau) yn darparu arweinyddiaeth ac yn hwyluso'r dilyniant addysg, hyfforddiant a gyrfa i holl feddygon a deintyddion SAS yng Nghymru. Cefnogir y tîm gan rwydwaith o diwtoriaid SAS sy'n seiliedig ym mhob un o'r byrddau iechyd ledled Cymru, ac mae'r tiwtoriaid yn helpu i hwyluso hyfforddiant a dilyniant gyrfa i feddygon SAS.

Y mis hwn rydym yn cwrdd â Dr Hesham Elhegni, ein tiwtor SAS sydd wedi'i leoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB). Mae Hesham wedi bod yn diwtor SAS ers ychydig dros flwyddyn bellach ac mae yma i'ch cynorthwyo.

Mae Dr Hesham Elhegni yn feddyg arbenigedd yng ngofal yr henoed (COTE). Gan gyrraedd y DU yn 2011 yn wreiddiol, yn Raddedig Meddygol Rhyngwladol (IMG), dechreuodd Hesham ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Bryste. Dyfarnwyd PhD iddo ac yna dechreuodd weithio yn y GIG yn 2016 yn Llundain. O 'r diwedd cyrhaeddodd BIPAB yn 2018.  Mae Hesham wrth ei fodd yn gweithio gyda'r henoed a gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol gan gynnwys agweddau rheoli clinigol a chymdeithasol. Mae diddordebau Hesham yn cynnwys coginio, teithio a hanes hynafol.

Ers cael ei benodi'n diwtor SAS ychydig dros flwyddyn yn ôl, mae Hesham wedi trefnu sawl sesiwn hyfforddi datblygiad proffesiynol parhaus (CPD) a chyrsiau i feddygon a deintyddion SAS yn BIPAB. Yn eu plith mae cyrsiau sy'n cael eu hariannu gan AaGIC a'r rhai sy'n cael eu cynnal o fewn y Ganolfan Ôl-raddedig leol. Mae rhai o'r cyrsiau hyn bellach yn cael eu cynnal bob blwyddyn i gyrraedd cymaint o boblogaeth SAS â phosib. Fel tiwtor SAS, mae Hesham hefyd yn rhan o Grŵp Cymorth IMG. Mae'n ymwneud yn sylweddol â chynhyrchu pecyn cyflwyniad ar gyfer meddygon IMG sy'n dod i weithio yn BIPAB.

 

Cymerwch olwg yma am adnoddau a gwybodaeth bellach ar ein tudalennau gwe: 

https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/meddygon-sas/