Neidio i'r prif gynnwy

Strategaeth y Gweithlu ar gyfer Arolwg Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Lansiwyd Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Hydref 2020 ac mae'n nodi'r weledigaeth ar gyfer y gweithlu dros y ddegawd nesaf. Mae'r strategaeth yn cynnwys saith thema, a ategir gan gamau gweithredu i'w cyflwyno dros y tair blynedd gyntaf. Rydym nawr yn dechrau ar y gwaith i ddatblygu'r camau gweithredu ar gyfer ail gam cyflwyno'r strategaeth.

Yn ystod Haf a Hydref 2022, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu wyneb yn wyneb a rhithiol er mwyn casglu adborth o bob rhan o iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn ein galluogi i ddatblygu'r camau cynorthwyol ar gyfer Cam II y strategaeth.  Er mwyn ein galluogi i ymgysylltu mor eang â phosibl ac i roi'r cyfle i gymaint o bobl â phosibl gyfrannu at yr ymgysylltu hwn, rydym yn cynnal digwyddiad ymgysylltu ar-lein.

Mae'r digwyddiad hwn yn adlewyrchu'r digwyddiadau wyneb yn wyneb a rhithiol.  I gymryd rhan yn y digwyddiad ar-lein hwn, gwrandewch ar ein cyflwyniad ac yna llenwch y ffurflen adborth.

Bydd y digwyddiad ar-lein yma yn cau ar 31 Hydref 2022.

(I alluogi is-deitlau Cymraeg neu saesneg sydd wedi'u awto-gynhyrchu, dewiswch yr eicon 'isdeitlau/capsiynau caeedig' ar fideo YouTube (yr eicon sy'n edrych fel papur newydd) a dewis eich dewis iaith.)