Croeso i dudalen we Cynhadledd Rhannu Rhagoriaeth Hyfforddiant mewn Addysg Amlbroffesiynol (STEME) 2023.
Mae'r gynhadledd wyneb yn wyneb hon yn cael ei chynnal yn Stadiwm Swansea.com ddydd Iau, 23 o Fawrth 2023 ac mae'n agored i bob unigolyn sy'n ymgymryd â rolau hyfforddwr mewn meddygaeth a phroffesiynau gofal iechyd eraill yn GIG Cymru (Sylwer: mae cofrestru ymlaen llaw yn hanfodol).
Nod y digwyddiad yw rhoi cyfle i hyfforddwyr sy'n gweithio yn y gwahanol broffesiynau ar draws gofal iechyd yng Nghymru i ddod at ei gilydd mewn amgylchedd dysgu amlbroffesiynol i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau i'w cefnogi i gyflawni eu rolau hyfforddwr yn effeithiol.
Thema'r gynhadledd eleni yw 'Cydweithio i wella hyfforddiant ledled Cymru'.
Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar newid cadarnhaol a'r pethau y gallwn eu gwneud i gefnogi a gwella addysg a hyfforddiant er gwaethaf yr heriau presennol sy'n wynebu gofal iechyd.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y gynhadledd hon neu os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru, e-bostiwch Uned Ansawdd AaGIC yn HEIW.SRE@wales.nhs.uk.
Cliciwch ar y botymau isod i gael mynediad at Raglen y Gynhadledd a gwybodaeth ddefnyddiol arall.