Croeso i dudalen we Cynhadledd Rhannu Rhagoriaeth Hyfforddiant mewn Addysg Amlbroffesiynol 2024.
Mae'r gynhadledd wyneb yn wyneb hon yn cael ei chynnal yn Stadiwm Swansea.com dydd Llun 18 Mawrth 2024 ac mae'n agored i bob unigolyn sy'n ymgymryd â rolau hyfforddwr mewn meddygaeth a phroffesiynau gofal iechyd eraill yn GIG Cymru (Sylwer: mae cofrestru ymlaen llaw yn hanfodol).
Nod y digwyddiad yw rhoi cyfle i hyfforddwyr sy'n gweithio yn y gwahanol broffesiynau ar draws gofal iechyd yng Nghymru i ddod at ei gilydd mewn amgylchedd dysgu amlbroffesiynol i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau i'w cefnogi i gyflawni eu rolau hyfforddwr yn effeithiol.
Thema'r gynhadledd eleni yw 'Addasu; Datblygu; Arloesi: Hyfforddiant ar gyfer y dyfodol'.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y gynhadledd hon, e-bostiwch Uned Ansawdd AaGIC yn HEIW.SRE@wales.nhs.uk.
Cliciwch ar y botymau isod i gael mynediad at Raglen y Gynhadledd a gwybodaeth ddefnyddiol arall.