Neidio i'r prif gynnwy

Sesiynau symud ar gyfer staff GIG Cymru i wella lles

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cyd-noddi rhaglen les a arweinir gan The Body Hotel ar gyfer staff y GIG yng Nghymru, sy'n canolbwyntio ar symud i hybu hunan-dosturi ac atal gorflinder gwaith.

Mae tri math o ddigwyddiad ar agor i staff y GIG yng Nghymru. Amcanion y digwyddiadau hyn yw:

  • creu mannau cadarnhaol i archwilio eich lles yn greadigol
  • meithrin hyder a meithrin perthnasoedd tosturiol i'r corff
  • dysgu sgiliau ac arferion newydd y gallwch eu cymhwyso i bob agwedd ar eich bywyd.

 

Y tair sesiwn sydd ar gael yw:
 

  1. Sesiynau Symud Cwtch Cinio

Cymerwch egwyl fer er mwyn lles eich hun yn ystod eich amser cinio i fywiogi a dadflino gyda gweithgaredd ar-lein cyflym a arweinir yn fyw gan arbenigwr symud

Mae'r digwyddiadau hyn yn rhedeg amser cinio bob yn ail ddydd Mercher am 20 munud trwy Zoom (dau slot ar gael am 12h a 12:30h). Nid oes angen i chi archebu lle, a gallwch wneud hyn fel tîm neu unigolyn. Bydd ugain sesiwn, yn dechrau o ddydd Mercher 5 Ebrill. Mae'r rhain yn rhagflas gwych i weld a fyddech chi'n mwynhau'r sesiynau hirach yn ystod y nosweithiau .

I archebu eich lle ewch i Gwella.

 

  1. Lolfa Symud i adfywio

Lle i adfywio ac ailgysylltu yn ystod y nosweithiau. Byddwch yn dysgu sgiliau ac arferion sy'n atal gorflinder gwaith ac yn meithrin cysylltiadau cadarnhaol gan ddefnyddio symudiad.

Bydd y digwyddiad hwn yn rhedeg rhwng 6pm a 7:15pm trwy Zoom. Bydd yn digwydd bob yn ail wythnos gan ddechrau ddydd Mercher 12 Ebrill ac yn rhedeg hyd at fis Hydref.

Archebwch eich lle.

 

  1. Man Hunan-Tosturi

Yn y gweithdy dwys hwn, byddwn yn dyfnhau ein harfer symud ac yn trin ein hunain i anghofio am fywyd bob dydd a gwirio i mewn gyda’n cyrff. Byddwch yn dysgu mwy am ddawns/symud fel adnodd ar gyfer ein lles ac yn myfyrio ar sut y gallwn feithrin ac ailgyflenwi ein hunain, mwynhau cysylltu ag eraill, ac ail-ymgysylltu â chwarae a chreadigrwydd.

Cynhelir y digwyddiadau hyn am dair awr ar ddydd Sadwrn bob pum wythnos gan ddechrau 29 Ebrill. Byddant yn cael eu cynnal yn AaGIC neu Brifysgol De Cymru yng Nghaerdydd.

Archebwch eich lle

Pamffled

Taflen