Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn recriwtio staff y GIG i fod yn Hyrwyddwyr Hinsawdd Doeth.

Yn 2019, datganodd Cymru argyfwng hinsawdd. Anfonodd hyn neges glir bod Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â her y newid yn yr hinsawdd.

Mewn ymateb i hyn, gosododd Llywodraeth Cymru nod o sero net yn y sector cyhoeddus yng Nghymru erbyn 2030.

GIG Cymru yw’r allyrrydd sector cyhoeddus mwyaf o garbon deuocsid, gydag ôl troed carbon o tua 1.00MtC02e. Mae hyn yn cyfateb i ddefnydd ynni blwyddyn gyfan bron 126,000 o gartrefi!

 

Mae AaGIC wedi ymrwymo i wneud a chynnal newid cynaliadwy ledled GIG Cymru. Un ffordd yr ydym yn gweithio i gyflawni hyn yw drwy recriwtio Hyrwyddwyr Hinsawdd Doeth o weithlu’r GIG.

Beth yw Hyrwyddwr Hinsawdd Doeth?

Mae hyrwyddwr hinsawdd doeth yn rhywun a fydd yn arwain ar drawsnewid GIG Cymru yn sefydliad doethach, mwy llwyddiannus a mwy cynaliadwy.

Mae arnom angen unigolion angerddol ar bob lefel i ysgogi newid cynaliadwy yn eu hamgylchedd.

Mae’r cyfle hwn yn agored i unrhyw un sy’n gweithio i’r GIG yng Nghymru. Mae'n ychwanegiad gwych at eich rôl bresennol. Yn ogystal, mae’n gyfle da i wella eich sgiliau arwain ym maes cynaliadwyedd

Disgwyliadau

Cyflwyniad at Ofal Iechyd Cynaliadwy, (Introduction to Sustainable Healthcare)

Canolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy.

 

Bydd gofyn i chi ymrwymo i:

  • Chwe awr o baratoi at hunan-astudio
  • Gweithdy rhithwir pedair awr

Bydd gennych hefyd gyfle i gael cefnogaeth drwy ‘gaffi gofal iechyd cynaliadwy’ drwy gydol y flwyddyn.

Mae’r fenter yma yn rhan o waith AaGIC i gwrdd â’n cyfrifoldebau sefydliadol a GIG Cymru. Mae’r rhain yn sicrhau mewn tair blynedd mi fyddwn wedi mewnblannu’r wybodaeth a’r ymchwil diweddaraf am ddatgarboneiddio i mewn i arweinyddiaeth, ymarfer, hyfforddiant ac addysg gofal iechyd, yn cefnogi’r dull Cymreig tuag at ofal iechyd cynaliadwy.

Llythrennedd Carbon

Ymwybyddiaeth o gostau carbon yw llythrennedd carbon, a’r effaith o weithgareddau pob dydd a’r gallu a’r cymhelliant i leihau allyriadau, ar sail unigolyn, cymuned a sefydliadol. Mae’r sesiwn hon yn darparu cyflwyniad at newid hinsawdd, yn cynnwys yr wyddoniaeth a galw brys y sefyllfa, cyn edrych ar effeithiau newid hinsawdd ar y sector iechyd a gofal a’r ystod o ymatebion sydd ar gael ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal iechyd. Mi fydd y sesiwn yn gorffen gyda datblygu cynllun gweithredu unigol fydd yn benodol ar gyfer swydd pob disgybl, yn darparu canlyniad pendant i roi ar waith yn eu bywydau gwaith. Mi fydd y rhain sy’n cymryd rhan yn y sesiwn hon ac sy’n cwblhau cynllun gweithredu yn llwyddiannus, yn dod yn ddinasyddion carbon llythrennog ardystiedig.

 

Os ydych eisoes wedi cofrestru ar nid oes angen i chi gofrestru am yr hyfforddiant Llythrennedd Carbon.

Cofrestrwch yma: https://forms.office.com/e/FK9isKAYmv

 

Cysylltwch: HEIW.Planning&Performance@Wales.nhs.uk