Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsio oedolion, nyrsio plant, nyrsio anabledd dysgu a nyrsio iechyd meddwl: beth yw'r gwahaniaethau?

Rydych chi'n ystyried astudio gradd Nyrsio yn y brifysgol ond efallai’n pendroni ynglŷn â pha gwrs i'w ddewis.

I’ch helpu i lunio’ch penderfyniad, rydym wedi amlinellu’r gwahaniaethau allweddol rhwng y gwahanol feysydd hyfforddiant nyrsio sydd ar gael, yn ogystal â’r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch cyn ymroi i’ch taith nyrsio.

Y mae i’r meysydd oll eu rhinweddau unigryw eu hunain, boed yn Nyrsio Oedolion, Plant, Anabledd Dysgu neu Iechyd Meddwl. Mae’r cyrsiau hyn nid yn unig yn helpu i'ch paratoi ar gyfer eich dethol broffesiwn wedi ichi raddio, ond hefyd yn caniatáu ichi ehangu’ch diddordebau penodol ym maes gofal iechyd.

 

Nyrsio oedolion

Fel nyrs oedolion wrth ei g/waith, byddwch yn gofalu am amrywiaeth o gleifion o fewn ystod oedran benodol. Byddwch yn canolbwyntio ar y sgiliau gofal sylfaenol sy’n angenrheidiol i ymarfer fel gweithiwr proffesiynol gofalgar, caredig a thosturiol. Byddwch yn meithrin y ddawn o werthfawrogi a pharchu anghenion personol cleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Fel rhan o’ch gradd Nyrsio Oedolion, byddwch yn dysgu am ddarpariaeth gofal diogel sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer cleifion â gwaeleddau acíwt a chronig. Byddwch yn cydlynu ac yn rheoli newid, yn gwella deilliannau iechyd pobl ac yn ymroi i hunanddatblygiad ar lefel bersonol a phroffesiynol i'ch paratoi ar gyfer cymhwyso fel nyrs gofrestredig.

Bydd eich lleoliadau’n eich cyflwyno i amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth fel nyrs staff yn y GIG, mewn amgylcheddau acíwt a chymunedol. Wedi ichi gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn ymgofrestru â'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) fel nyrs oedolion g/cofrestredig.

Dysgwch fwy am Nyrsio Oedolion.

 

Nyrsio Iechyd meddwl

Mae'r ffocws fymryn yn wahanol yn achos gradd Nyrsio Iechyd Meddwl, gan mai cleifion â salwch meddwl y byddwch yn eu cynorthwyo. Mae hyn yn cyferbynnu â'r dull mwy cyffredinol o ofalu am anhwylderau corfforol ym maes nyrsio oedolion. Bydd yr ymagwedd hon at nyrsio yn eich helpu i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd drwy gyfrwng proses therapiwtig. Byddwch hefyd yn gweithio gyda chleifion o bob oed, yn wahanol i’r maes nyrsio oedolion a phlant sy’n ymdrin ag ystodau oedran arbenigol. 

Bydd y ffocws ar y gyfraith a moeseg, gyda phwyslais ar yr elfennau cyfannol sy’n gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl acíwt, amrywiol a hirdymor, yn ogystal ag ymchwil a gofal yn seiliedig ar dystiolaeth. Byddwch yn dysgu sut i ddelio â newid a grymuso defnyddwyr gwasanaeth a theuluoedd/gofalwyr, gan ddefnyddio biowyddoniaeth gymhwysol er budd gofal cymhleth.

Mae gyrfaoedd ym maes nyrsio iechyd meddwl yn cynnwys cyfleoedd i weithio i ystod o sefydliadau’r GIG, megis ysbytai, cymunedau, gwasanaethau arbenigol, gwasanaethau iechyd meddwl fforensig a gofal sylfaenol. Mae opsiwn hefyd i ymroi i arbenigeddau fel iechyd meddwl fforensig, gofal cartrefi nyrsio, yn ogystal â gwasanaethau cyffuriau ac alcohol arbenigol.

Dylid nodi y gall nyrsys iechyd meddwl cofrestredig ragddisgwyl cyfnod o diwtoriaeth, i bontio’r bwlch rhwng bod yn nyrs dan hyfforddiant ac yn ymarferydd cofrestredig (caiff hyn ei drefnu gan eich cyflogwr).

Dysgwch fwy am Nyrsio Anabledd Dysgu.

 

Nyrsio plant

Yn wahanol i Nyrsio Oedolion, bydd gradd Nyrsio Plant yn eich helpu i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar deuluoedd drwy’ch arfogi â'r sgiliau i feithrin perthnasoedd cadarnhaol â phobl ifanc a phlant yn benodol. Byddwch yn rhoi cynhaliaeth a chyngor i deuluoedd ac yn gweithio fel rhan o dîm o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.

Byddwch yn canolbwyntio ar ofal plentyn-ganolog, yn ogystal ag ehangu’ch sgiliau ymchwil yn y maes hwn. Rhan allweddol o'r gangen hon o nyrsio yw grymuso plant, ynghyd â'u teuluoedd neu’u gofalwyr yn rhinwedd eich rôl fel Nyrs Plant.

Mae cymhwyster mewn Nyrsio Plant yn agor sawl drws ac yn eich galluogi i ddatblygu’ch gyrfa mewn amrywiaeth o leoliadau sefydliadol. Gall y rhain gynnwys ysbytai plant, ysbytai cyffredinol, lleoliadau’r sector annibynnol, lleoliadau cymunedol neu gartrefi’r plant eu hunain.

Dysgwch fwy am Nyrsio Plant.

 

Nyrsio anabledd dysgu

Mae nyrsys anabledd dysgu’n chwarae rhan hanfodol, a’u gwaith yn cwmpasu rhychwant oes gyfan mewn lleoliadau iechyd a gofal,  wrth ymdrin ag oedolion a phlant. Byddwch yn ymwneud â gwella neu gynnal iechyd corfforol a meddyliol unigolion, gan leihau rhwystrau a'u cynorthwyo i fyw bywyd annibynnol a boddhaus. Efallai hyd yn oed y byddwch yn eu helpu i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddod o hyd i waith.

Fel nyrs anabledd dysgu, mae modd ichi weithio mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys cartrefi unigolion, sefydliadau addysgol, canolfannau preswyl a chymunedol ac ysbytai. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm a all gynnwys meddygon teulu, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol, seicolegwyr, therapyddion lleferydd ac iaith, athrawon a chynorthwywyr gofal iechyd.

Dysgwch fwy am Nyrsio Iechyd Meddwl.

 

Tebygrwydd a gwybodaeth allweddol ar gyfer graddau nyrsio

Mae bwrsariaeth y GIG, nad oes rhaid ei had-dalu, ar gael ar gyfer pob gradd nyrsio (o bob math) yng Nghymru. Mae hi’n cwmpasu’r ffioedd dysgu a chostau byw. Mae’r opsiwn ariannu hwn ar gael i chi ar yr amod eich bod yn cytuno i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd wedi ichi gofrestru (gallai’r telerau hyn newid).

Mae graddau nyrsio wastad yn ymgorffori lleoliadau seiliedig ar waith fel rhan o'r broses ddysgu, a bydd yn ofynnol i chi gwblhau rhywfaint o oriau ar leoliad cyn graddio.

I gael gwybodaeth fanylach am raddau nyrsio yng Nghymru, porwch drwy’r wefan Ewch i nyrsio.

Darparwyd yr erthygl hon gan fyfyriwr ym Mhrifysgol Wrecsam.