Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsio Anabledd Dysgu – gyrfa yn addas ar gyfer y dyfodol

Thema Diwrnod Rhyngwladol Nyrsys 2023 eleni yw 'Ein Nyrsys. Ein Dyfodol'. Ymgyrch fyd-eang yw hon sy’n amlygu gweithlu nyrsio yn y dyfodol a all wynebu heriau iechyd heb eithrio unrhyw un, gan gynnwys pobl ag anabledd dysgu.

Mae gan nyrsio anabledd dysgu rôl hollbwysig o ran sicrhau bod gwasanaethau iechyd teg ar gael i ein pobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mae tystiolaeth yn dangos bod nyrsio anabledd dysgu yn gwella gofal yn sylweddol ac yn arwain at ganlyniadau iechyd cadarnhaol. Er hynny, mae datblygu a recriwtio gweithlu nyrsio yn y dyfodol yn parhau i fod yn her. Pam hynny?

Mae amgyffrediad yn bopeth ac mae’r rôl yn aml yn cael ei chamddeall neu’n cael ei hanwybyddu neu mae’n anhysbys. Ond eto mae’n rôl sydd wedi’i gwreiddio mewn cydraddoldeb a hawliau dynol sy’n annog ac yn cynnal arloesedd, arbenigedd ac arweinyddiaeth.

Dywed Lisa Llewelyn, Cyfarwyddwr Nyrsio a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol:

“Mae nyrsio anabledd dysgu yn rôl foddhaus sy’n cynnig cyfle i weithio mewn ystod eang o leoliadau, ysbyty, cartref neu yn y gymuned. Byddwch yn gweithio gyda phlant ac oedolion ar hyd eu hoes, gan helpu i ddatblygu cynllun gofal personol i wella canlyniadau iechyd ac ansawdd bywyd yr unigolyn. Gan weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol, mae cynnwys yr unigolyn, ei deulu a’i ofalwyr yn brofiad gwerthfawr. Mae llawer o gyfleoedd hefyd i nyrsys anabledd dysgu ymgymryd ag ymchwil, y maes academaidd ac addysg. Mae addysgu a hyfforddi ein gweithlu nyrsio anabledd dysgu presennol ac yn y dyfodol yn hynod bwysig.

“Yng Nghymru mae gennym ddigonedd o enghreifftiau o nyrsys anabledd dysgu ysbrydoledig sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol nid yn unig i fywydau unigolion ond sydd wedi helpu i lunio polisi ac ysgogi newid.

 “Mae Dr Ruth Wyn Williams, nyrs anabledd dysgu sydd hefyd yn ddarlithydd mewn gwyddorau gofal iechyd ym Mhrifysgol Bangor, wedi cynghori ein llywodraeth yng Nghymru ar bolisi ac ar hyn o bryd mae’n rhan o dîm sy’n ymweld â chartref plant amddifad yn yr Wcrain sy’n darparu cyngor a chymorth arbenigol.

“Mae David O’Brien, nyrs anabledd dysgu ers dros 32 mlynedd bellach yn Uwch Reolwr Gwella yn Gwelliant Cymru ac yn rhan o dîm sy’n ysgogi newid a gwelliannau cynaliadwy gan weithio gyda phobl ag anabledd dysgu a rhanddeiliaid eraill. Drwy gydol ei yrfa mae wedi cael rhai rolau diddorol, gan gynnwys nyrs cyswllt cyfiawnder troseddol, cynghori’r heddlu ac asiantaethau eraill ar dreialu gwahanol ffyrdd tosturiol o ymateb i bobl ag anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl sydd mewn trallod.

“Fel gyda phob rôl nyrsio, mae’n fraint bod yn rhan o fywyd person a gofalu amdano a’i gynorthwyo pan mae ganddo ei angen fwyaf, ac mae hyn yn arbennig o wir wrth ofalu am berson ag anabledd dysgu. Wrth i ni fyfyrio a dathlu’r diwrnod pwysig hwn rydym yn atgoffa ein hunain o’r rôl a’r cyfrifoldeb gwych sydd gennym fel nyrsys, wrth lunio dyfodol sy’n darparu gofal i greu Cymru fwy cyfartal ac iachach.”

I weld y llwybrau addysg a hyfforddiant ewch i:

Tregyrfa

AaGIC

RCN Cymru