Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i'n Tîm Gweithredol

Ysgrifennaf atoch i’ch hysbysu y bydd Julie Rogers, Dirprwy Brif Weithredwr AaGIC a Chyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn gadael AaGIC ar gyfer porfeydd newydd ddiwedd mis Mehefin.

Estynnwn ein llongyfarchiadau gwresog i Julie, sydd wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr newydd Cymdeithas Rheoli Pobl Gofal Iechyd y DU (HPMA) – llais proffesiynol pobl broffesiynol ym maes iechyd a gofal ledled y DU.

Bydd colled fawr ar ôl Julie yn AaGIC a hithau’n un o’n hoelion wyth ers ein sefydlu’n gynnar yn 2018. Bu’n arwain rhai o’n darnau mwyaf arwyddocaol o waith gan gynnwys datblygu Strategaeth Gweithlu Iechyd a Gofal Cymru 2020 – 2030’, y cyntaf o’i bath, yn ogystal â’n rhaglen dalent, olyniaeth ac arweinyddiaeth genedlaethol arobryn. Bu hi hefyd yn darparu cymorth sylweddol ar lefel genedlaethol gan gynnwys fel cyd-gadeirydd cell gweithlu cenedlaethol Covid-19.

Dymunwn y gorau i Julie ac edrychwn ymlaen at gydweithio â hi yn ei rôl newydd.  Rydym yn awr yn dechrau ar y gwaith anodd o adlenwi rôl Julie, a bydd rôl Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol AaGIC yn mynd allan i'w hysbysebu yn ddiweddarach yr wythnos hon.

 

Cofion cynnes

Alex Howells

Prif Weithredwr Addysg a Gwella Iechyd Cymru