Neidio i'r prif gynnwy

Michala Deakin o AaGIC yn ennill y wobr Tiwtor Cenedlaethol Ysbrydoli! 2024

Published 04/04/2024

Mae Michala Deakin, Asesydd a Thiwtor ar gyfer Swyddogion Sicrhau Ansawdd Mewnol yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi ennill y wobr tiwtor cenedlaethol Ysbrydoli! 2024.

Mae’r wobr  yn cydnabod gwaith, ymdrech ac ymrwymiad eithriadol Michala i ddatblygu a chefnogi safonau uchel o hyfforddiant sicrwydd ansawdd ar gyfer Aseswyr a Swyddogion Sicrhau Ansawdd ar draws GIG Cymru.

Dyfarnwyd yr anrhydedd iddi ddydd Mawrth 12 Mawrth yn y Senedd.

Yn GIG Cymru, mae Aseswyr a Swyddogion Sicrhau Ansawdd yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau dysgu seiliedig ar waith o safon i staff clinigol ac anghlinigol ar draws disgyblaethau gofal iechyd.

Yn ei rôl yn AaGIC, mae Michala yn gyfrifol am gefnogi asesu, hyfforddi a mentora Aseswyr a Swyddogion Sicrhau Ansawdd i sicrhau bod eu hymagwedd at sicrhau ansawdd yn gyson ac yn deg i bob dysgwr.

Mae ei chyflawniadau yn cynnwys:

  • datblygu a gweithredu dull Cymru gyfan safonol ar gyfer y cymwysterau canlynol: Aseswr Lefel 3 CAVA (Tystysgrif mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol) a Lefel 4 AIQA (Dyfarniad mewn Sicrhau Ansawdd Mewnol Prosesau ac Arferion Asesu)
  • sefydlu rhwydwaith cymheiriaid sicrhau ansawdd Cymru gyfan i annog aelodau i rannu arfer gorau.
  • creu cyfres o adnoddau ar-lein, arloesol i hyfforddeion Aseswyr a Sicrhau Ansawdd eu cyrchu ar unrhyw adeg i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus. Mae'r adnoddau hyn yn cynnwys animeiddiadau, modiwlau hyfforddi a phecynnau cymorth.
  • mentora a sicrhau lles yr holl hyfforddeion Aseswyr a Swyddogion Sicrhau Ansawdd trwy gymorth ac adborth parhaus.

O ganlyniad, mae Michala wedi helpu i gryfhau a symleiddio’r broses o ddarparu hyfforddiant Aseswyr a Swyddogion Sicrhau Ansawdd ar draws GIG Cymru, gan arwain at gynnydd yn y nifer ar draws GIG Cymru.

Meddai Robert Ledsam, Tiwtor Sgiliau Clinigol Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd (HCSW), Diwylliant a Datblygiad Sefydliadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:

“Yn yr ardaloedd y mae Michala wedi mentora staff drwy’r broses newydd hon o asesu a chyflwyno, rydym bellach yn gweld cyfradd cyflwyno asesiad well o dros 80%. Yn flaenorol roedd y cyflwyniad mor isel ag 20%.”

Dywedodd Michala: “Mae tiwtora a mentora yn bwysig i mi gan ei fod yn caniatáu i mi sicrhau bod gan staff yr offer sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu swydd, a’i wneud yn dda. Roedd yn anrhydedd i mi gael fy enwebu ar gyfer y wobr tiwtor Ysbrydoli! 2024, ac felly roedd ennill y wobr yn anhygoel”

Cynhelir y wobrau tiwtoriaid Ysbrydoli! yn flynyddol. Mae Gwobrau Tiwtoriaid yn cael eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, ac yn cael eu cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, Colegau Cymru, Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru a Phrifysgolion Cymru.