Neidio i'r prif gynnwy

Menter newydd i helpu timau deintyddol yng Nghymru gyda diagnosis cynnar o ganser y geg

[Tîm Practis Deintyddol Gwaun Cae Gurwen]

 
Mae pecyn cymorth addysgol newydd a luniwyd i helpu timau deintyddol i atal a nodi canser y geg wedi cael ei lansio gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Mae canser y geg, a all effeithio ar y gwefusau, y tafod, y bochau a'r gwddf, yn effeithio ar tua 8000 o gleifion y flwyddyn yn y DU a hwn yw'r unfed canser ar ddeg mwyaf cyffredin ledled y byd.

Fodd bynnag, mae cyfraddau goroesi cleifion yn llawer gwell os caiff y canserau eu diagnosio'n gynnar a'u trin yn gyflym.

Mae timau deintyddol mewn sefyllfa dda i nodi unrhyw annormaleddau ac i chwarae rhan bwysig wrth ganfod canserau'n gynnar yn ystod apwyntiadau archwilio arferol.

Dywedodd Kirstie Moons, Cyfarwyddwr Cyswllt ar Gyfer Cynllunio a Datblygu Gweithlu'r Tîm Deintyddol yn AaGIC: "Er bod datblygiadau mawr wedi bod yn y driniaeth o ganser y geg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r gyfradd oroesi gyffredinol o bum mlynedd ar ôl y driniaeth yn dal i fod ar 50% yn unig.

Gall canfod yn gynnar a gweithredu'n ddiymdroi gan dimau deintyddol olygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw i gleifion mewn realiti.

"Bydd ein Teclyn Gwella Ansawdd Canser y Geg yn helpu timau deintyddol i deimlo'n hyderus wrth ddarparu cyngor ataliol, diagnosio canserau'r geg yn gynnar ac wrth gefnogi cleifion sydd â'r clefyd.”

Gall holl aelodau'r tîm ymarfer deintyddol ddefnyddio pecyn cymorth newydd AaGIC, sydd wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad â thimau deintyddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Caerdydd – gan gynnwys deintyddion, nyrsys deintyddol, hylenwyr a thechnegwyr-er mwyn sicrhau ymagwedd tîm cyfan effeithiol at ofal cleifion.

Mae'r adnodd yn cefnogi timau deintyddol i: godi ymwybyddiaeth cleifion o achosion canser y geg (gan gynnwys y defnydd o dybaco ac alcohol a throsglwyddo'r Feirws Papiloma Dynol (HPV)), helpu cleifion i ddod yn fwy ymwybodol o'r symptomau, bod yn hyderus ynghylch sut i drafod amheuon bod canser arnynt gyda chleifion ac i fod yn ymwybodol o'r hyfforddiant a'r adnoddau sydd ar gael o ran canfod canser y geg yn gynnar.

Dywedodd Natalie Rees, proffesiynolyn gofal deintyddol a fu'n rhan o gynllun peilot y pecyn cymorth yng nghangen deintyddol Gwaun Cae Gurwen yn Rhydaman: "Ar ôl gweld claf yn ddiweddar â chanser y geg, roedd [y pecyn cymorth] yn fy ngalluogi i fod yn hyderus yn ein prosesau ymarfer."

Ychwanegodd David Ainsworth, deintydd yn yr un practis: "Mae'n offeryn defnyddiol iawn ac mae wedi arwain at drafodaeth feddylgar ar ein prosesau a'n rolau.”

Lansiwyd Offeryn Gwella Ansawdd Canser y geg ym mis Tachwedd eleni i gyd-ddigwydd â Mis Gweithredu Canser y Geg, ymgyrch i godi ymwybyddiaeth a mynd i'r afael â chanser y geg yn y DU. 

 

DIWEDD

 

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Offeryn Gwella Ansawdd Canser y Geg yn cefnogi amcanion Llywodraeth Cymru a nodir yn 'Cymru Iachach' i ddarparu gofal o ansawdd gwell i gleifion, gan ganolbwyntio ar atal, a chynyddu sgiliau'r tîm deintyddol cyfan i'r eithaf.
     
  • Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar 1 Hydref 2018. Mae'n awdurdod iechyd arbennig o fewn GIG Cymru a grëwyd drwy ddod â thri sefydliad allweddol ar gyfer iechyd at ei gilydd: Deoniaeth Cymru; Gwasanaethau Addysg a Datblygu Gweithlu GIG Cymru (WEDS); a Chanolfan Addysg Fferylliaeth Broffesiynol Cymru (WCPPE). Ar y cyd â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, mae gan AaGIC rôl arweiniol o ran addysg, hyfforddiant, datblygiad a siapio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Mae ei swyddogaethau allweddol yn cynnwys addysg a hyfforddiant, datblygu a moderneiddio'r gweithlu, datblygu arweinyddiaeth, cynllunio strategol ar gyfer y gweithlu, gwybodaeth am y gweithlu, gyrfaoedd, ac ehangu mynediad. Ceir rhagor o wybodaeth yn https://heiw.nhs.wales/