Neidio i'r prif gynnwy

Manteision celf mewn gofal iechyd

Mae corff cynyddol o dystiolaeth sy'n dangos bod y celfyddydau, gan gynnwys y celfyddydau gweledol, symud, cerddoriaeth a mwy, yn gallu helpu trin salwch, gwella lles, a helpu pobl i reoli afiechydon.

Mae pobl yn haeddu byw bywydau hapus, llawen ac mae'r celfyddydau'n hwylusydd cynyddol o hyn. Mae defnyddio'r celfyddydau nid yn unig yn gwella bywydau cleifion ond hefyd lles staff gofal iechyd, lles cymunedol a gall wella amgylcheddau gofal iechyd.

Er enghraifft, mae cerddorion wedi bod yn gweithio gyda phobl sy'n dioddef o Covid Hir, gan ddangos sut y gall canu wella gweithrediad yr ysgyfaint, yn ogystal â lleihau gorbryder a blinder.

Wrth weithio mewn partneriaeth gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), mae ffilm i gyflwyno manteision y celfyddydau ym maes iechyd wedi ei chomisiynu gan dîm y Celfyddydau ac Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae hyn yn rhan o'u Rhaglen Darganfod Rhagnodi Creadigol ac fe'i hariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Cynhyrchir gan Rwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cymru (WAHWN).

Ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Ffilm gan Simon Huntley

 

Nod y ffilm yw gwreiddio ymwybyddiaeth a gwybodaeth am fanteision y celfyddydau ar iechyd a lles cymunedau, cleifion, a staff ar draws y byrddau iechyd.

Dywedodd Dr Chris Price, Pennaeth Uned Cymorth Ailgyfeirio yn AaGIC, "Mae'r celfyddydau'n cefnogi pobl i fynegi eu hunain, cyfathrebu, magu hunanhyder, a rheoleiddio eu hemosiynau drwy gysylltu â phobl eraill. O fewn gofal iechyd, gall celf wella ansawdd profiadau claf. Mae AaGIC yn falch o gefnogi'r maes arloesol hwn o ofal iechyd wrth i ni barhau i addysgu gweithlu'r GIG ar fanteision celf mewn gofal iechyd."

Dywedodd pobl sy'n cymryd rhan yn y celfyddydau am ddementia, "Mae'n braf cael polisi agored lle gallwch chi fynd i fwynhau a siarad a chael rhywun i'ch helpu chi allan pan fydd gennych broblem."

Dywedodd cyfarwyddwr cynorthwyol Conffederasiwn GIG Cymru, Nesta Lloyd–Jones: "Mae Cymru'n arwain y ffordd o ran gwreiddio'r celfyddydau ar draws y gwasanaeth iechyd, gyda dealltwriaeth gynyddol o'r effaith y gall y celfyddydau ei chael o ran gwella canlyniadau iechyd, gwrthsefyll anghydraddoldebau a chynyddu ymgysylltiad cymdeithasol. 


I ddarganfod mwy ewch i wefan Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru.

Cofrestrwch â Rhwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cymru.

Rhowch gynnig ar weithgareddau creadigol

Darllen pellach :

Credydau llun: Rubicon Dance Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro