Neidio i'r prif gynnwy

Mae modiwlau hyfforddiant fframwaith NYTH bellach yn fyw ar Y Tŷ Dysgu

Mae AaGIC wedi cyd-gynhyrchu dwy sesiwn hyfforddi NYTH fer (30 munud) sydd bellach yn fyw ar Y Tŷ Dysgu. Adnodd ar gyfer cynllunio gwasanaethau iechyd meddwl, lles a chymorth i fabanod, plant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a’u teuluoedd ehangach ledled Cymru yw’r Fframwaith NYTH. Mae'r hyfforddiant yn rhoi cyflwyniad i fframwaith NYTH, hawliau plant a sut i weithredu a chefnogi'r ddau.

Mae'r hyfforddiant wedi'i ddatblygu ar gyfer unrhyw un y mae ei rôl yn ymwneud ag iechyd meddwl neu les babanod, plant neu bobl ifanc (ac eithrio staff ysgol). Mae'n adnodd hunan-arweiniol y gellir ei gwblhau ar amser sy'n gyfleus i'r dysgwr.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Beth yw Fframwaith  NYTH? - YouTube

Cysylltwch â heiw.mentalhealthworkforceplan@wales.nhs.uk am fwy o fanylion neu ewch i Croeso! - Ytydysgu AaGIC i gwblhau'r hyfforddiant.