Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwybodaeth yn grymuso nyrsys y dyfodol

Mae gwella gwybodaeth a sgiliau gweithwyr gofal iechyd presennol a graddedigion sydd â graddau cysylltiedig â gofal iechyd yn hanfodol i ddatblygu a meithrin Nyrsys y dyfodol.

Dyna farn Rhiannon Griffiths-Williams, Uwch Ddarlithydd Nyrsio ym Mhrifysgol Wrecsam/Prifysgol Wrecsam, sy’n arwain gradd Meistr Nyrsio’r sefydliad.

Mae’r cwrs dwy flynedd, amser llawn,  wedi’i anelu at y rheini sydd â chefndir mewn gofal iechyd ac sydd wedi cwblhau gradd israddedig sy’n ymwneud ag iechyd yn flaenorol, gan gyflawni 2:2 neu uwch. Mae’n ceisio rhoi’r wybodaeth broffesiynol sydd ei hangen ar ddarpar Nyrsys ar gyfer eu maes dewisol o Nyrsio – iechyd oedolion, plant neu iechyd meddwl.

Rhaid i ddarpar fyfyrwyr y rhaglen fod â phortffolio o dystiolaeth, sy'n eu galluogi i gynnwys ac arddangos dysgu graddedig blaenorol. Gall hyn gynnwys gwybodaeth, sgiliau, gwerthoedd, ymddygiadau gofalu, a phrofiad gofal sy’n cyfateb i flwyddyn o raglen Nyrsio – trwy 500 awr o ddysgu damcaniaethol a 500 awr o ddysgu ymarferol.

Mae'r cwrs hefyd yn addas ar gyfer y rhai sydd wedi cyflawni graddau israddedig mewn Addysg, oherwydd natur drosglwyddadwy y set sgiliau sydd ei hangen.

Wrth siarad am y cwrs, dywedodd Rhiannon: “Rydym yn falch iawn o gynnig y cyfle i'r rhai sydd â phrofiad mewn gofal iechyd, sydd hefyd â gradd sy'n gysylltiedig ag iechyd, i drosglwyddo eu sgiliau a'u profiad hanfodol i ddod yn Nyrs â chymwysterau llawn mewn dwy flynedd.

“Rydym yn hynod falch o’r rhaglen astudio hon, sy’n cynnwys cymysgedd cyfartal o theori a dysgu sy’n seiliedig ar ymarfer – ac rydym wrth ein bodd ein bod yn datblygu gwybodaeth a sgiliau gweithwyr gofal iechyd presennol a’r rhai sydd a graddau iechyd cysylltiedig ymhellach. Mae hynny’n allweddol i feithrin ein cenhedlaeth nesaf o Nyrsys.

Mae bwrsari GIG llawn, gan gynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth ar gyfer costau byw nad oes rhaid ei ad-dalu, ar gael ar gyfer y cwrs hwn, os yw’r darpar fyfyriwr yn gymwys ac yn cytuno i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cofrestru. Mae’r cwrs wir yn gyfle gwych.”

Mae myfyriwr presennol ar y cwrs, George Morris, 25, o’r Wyddgrug, sydd bron â chwblhau ei flwyddyn gyntaf, yn dweud bod yr hyn y mae wedi’i ddysgu hyd yn hyn wedi bod yn “amhrisiadwy”.

“Pan wnes i raddio o’r brifysgol dair blynedd yn ôl, roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau cefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl ond sylweddolais nad oedd gen i’r profiad cywir eto o reidrwydd, felly dechreuais weithio fel Gweithiwr Cymorth mewn ysbyty iechyd meddwl preifat i ennill y profiad ymarferol hwnnw,” meddai.

“Wrth i amser fynd yn ei flaen, ar ôl gweithio gyda rhai Nyrsys iechyd meddwl ysbrydoledig, sylweddolais mai dyna’r llwybr roeddwn i eisiau ei ddilyn, felly pan glywais am y cwrs Meistr yn Wrecsam,  fe wnes i gais – ac rwy’n falch o ddweud ei fod wedi bod yn brofiad ffantastig hyd yn hyn.

“Mae wedi bod yn wych cael fy nerbyn ar raglen sy'n rhoi cymaint o bwyslais ar ddysgu a phrofiad blaenorol.

“Ers dechrau’r cwrs hwn, rwyf wedi gallu cymhwyso fy ngwybodaeth a’m profiad presennol i’m hastudiaethau, tra hefyd wedi magu hyder yn fy sgiliau arwain a wedi cael mewnwelediadau gwerthfawr yn y maes nyrsio.

“Fy neges i unrhyw un sydd â chefndir a gradd mewn gofal iechyd ag uchelgais o ddod yn Nyrs fyddai gwneud cais am y rhaglen Meistr hon yn Wrecsam – mae’n gwrs gwych gan ei fod yn gymysgedd perffaith o ddysgu ymarferol trwy leoliadau ond hefyd rydych yn ennill  wybodaeth ddamcaniaethol”

Mae lleoedd ar gael o hyd ar gyfer derbyniad mis Mawrth. Mae rhagor o wybodaeth am y cwrs ar gael yma.