Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cymru'n cyflawni dros 99% o'r gyfradd lenwi wrth fod mwy a mwy o feddygon iau yn dewis hyfforddi yng Nghymru

Yn ôl data a gyhoeddwyd gan Fwrdd Recriwtio a Dethol Meddygol a Deintyddol y DU, mae Cymru wedi cyrraedd y cyfraddau llenwi uchaf ledled y DU.

Mae dros 99% o swyddi hyfforddi craidd gofal eilaidd a hyfforddiant arbenigol ledled Cymru wedi'u llenwi gan fod nifer cynyddol o feddygon iau yn cydnabod potensial Cymru fel lle rhagorol i hyfforddi, gweithio a byw ynddo.

Mae cyfanswm cyfraddau llenwi eleni o 99.30% wedi cynyddu o dros 5% o'r flwyddyn flaenorol a thros 10% o 2018.

Mae nifer y swyddi hyfforddi sydd ar gael wedi cynyddu hefyd o 415 i 428. O'r 428 hwn, dim ond tri lle na chafodd eu llenwi eleni ar draws 15 o arbenigeddau gwahanol megis hyfforddiant Llawfeddygol Craidd, Radioleg Glinigol, Offthalmoleg ac Obstetreg a Gynaecoleg, gyda 12 o arbenigeddau yn cyflawni 100%.

Mae nifer yr hyfforddai Meddygon Teulu yng Nghymru wedi cynyddu 13.5% ers y llynedd a’r gyfradd yw 58.5% ers 2018, ar y cam hwn o'r broses recriwtio. Mae hyn yn cryfhau ymhellach enw da Cymru fel lle rhagorol i hyfforddi i fod yn Feddyg Teulu.

Hyd yn hyn eleni, mae 176 o hyfforddeion Meddygon Teulu wedi cael eu recriwtio gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), a disgwylir i'r ffigur barhau i gynyddu hyd nes y caiff rowndiau recriwtio pellach eu cwblhau yn yr Hydref. Caiff hyn effaith uniongyrchol ar gynyddu nifer y meddygon teulu sy'n gofalu am gleifion ledled Cymru dros y blynyddoedd i ddod a bydd yn helpu i gyflawni ein huchelgeisiau i gryfhau ac ehangu gwasanaethau gofal sylfaenol.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae AaGIC wedi sefydlu nifer o fentrau i hyrwyddo Cymru fel lle gwych i hyfforddi a gweithio, gan gynnwys cyflwyno pecynnau cymell sy'n cynnwys cyllid ar gyfer un eisteddiad o arholiadau'r Coleg Brenhinol, cynyddu cyfleoedd a phroffil arbenigeddau anodd eu llenwi drwy brofiadau rhagflas a hyrwyddo arbenigeddau mewn digwyddiadau gyrfaoedd ar gyfer Hyfforddeion Sylfaen a myfyrwyr Meddygol. Mae'r cwrs Hyfforddwr Meddygon Teulu hefyd wedi cael ei ailgynllunio gan Dîm Rheoli Addysgol hyfforddiant Meddygon Teulu AaGIC.

Dywedodd yr Athro Pushpinder Mangat, y Cyfarwyddwr Meddygol yn AaGIC: "Mae'r cyfraddau llenwi hyn ar gyfer y grŵp hwn o feddygon yn dangos cynnydd parhaus yn nifer yr hyfforddeion craidd a chynnar arbenigol sy'n dewis dod i Gymru. Yr ydym yn falch iawn o fod wedi cyrraedd bron 100% eleni, a fydd yn cael effaith mor gadarnhaol ar wasanaethau gofal iechyd a chleifion yng Nghymru.

"Rydym wedi parhau i weithio gydag arbenigeddau a phartneriaid ledled Cymru, yn enwedig yn y meysydd hynny lle rydym wedi gweld swyddi gwag hirsefydlog, er mwyn gwella cyfraddau llenwi. Rydyn ni'n falch o waith caled ein timau yn y maes hwn, sy'n cael ei adlewyrchu yn y ffigurau eithriadol hyn. "

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Mae ein henw da fel lle ardderchog i hyfforddi i fod yn feddyg teulu yn tyfu ac mae'r niferoedd recriwtio diweddaraf yn dyst i hynny.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu'r gweithlu sydd ei hangen i ddarparu system iechyd a gwasanaethau cymdeithasol sy'n fodern ac yn gynaliadwy, fel y nodir yn Cymru Iachach. Parhawn i gefnogi'r gwaith o ehangu lleoedd hyfforddi meddygon teulu yng Nghymru a thrwy ein hymgyrchoedd marchnata yr ydym bellach wedi ennill enw da fel lle rhagorol i weithwyr proffesiynol ym maes meddygaeth i Hyfforddi, Gweithio a Byw.”

 

DIWEDD

Nodyn i Olygyddion:

Wedi'i sefydlu ar 1 Hydref 2018, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n eistedd wrth ochr Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau o fewn GIG Cymru. Mae gennym rôl flaenllaw ym maes addysg, hyfforddi, datblygu a siapio'r gweithlu gofal iechyd, gan gefnogi gofal o ansawdd da i bobl Cymru.

Cyfraddau llenwi ar gyfer Cymru am y tair blynedd diwethaf yn ôl arbenigedd:

Arbenigedd

2020 Swyddi

2020 Derbyn

2020 % Llenwi

2019 Swyddi

2019 Derbyn

2019 % Llenwi

2018 Swyddi

2018 Derbyn

2018 % Llenwi

ACCS Anaestheteg/Anaestheteg Craidd

30

30

100.00

36

36

100.00

33

33

100.00

Llawfeddygaeth Cardio-thorasig

1

1

100.00

1

1

100.00

1

1

100.00

Hyfforddiant Llawfeddygol Craidd

44

44

100.00

45

45

100.00

44

44

100.00

Histopatholeg

2

2

100.00

4

4

100.00

5

2

40.00

Niwrolawdriniaeth

1

1

100.00

1

1

100.00

1

1

100.00

Offthalmoleg

2

2

100.00

7

7

100.00

8

8

100.00

Llawdriniaeth ar y geg a'r wyneb

1

1

100.00

1

1

100.00

1

1

100.00

Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd

2

2

100.00

5

5

100.00

     

Hyfforddiant Meddyginiaeth Mewnol

75

74

98.67

70

70

100.00

120

83

69.17

Radioleg Glinigol

20

20

100.00

13

13

100.00

17

17

100.00

Hyfforddiant Seiciatreg Graidd

27

26

96.30

21

20

95.24

14

11

78.57

ACCS-Meddygaeth Frys

14

14

100.00

15

15

100.00

12

12

100.00

Obstetreg a Gynaecoleg

9

9

100.00

9

9

100.00

8

8

100.00

Pediatreg

24

23

95.83

14

14

100.00

17

14

82.35

Meddygon Teulu

176

176

100.00

169

155

91.72

128

113

88.28

Cyfanswm

428

425

99.30%

415

394

94.94%

409

348

85.09%