Neidio i'r prif gynnwy

Dr Delia Ripley

I nodi 'Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched Mewn Gwyddoniaeth', mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn dathlu llwyddiannau eithriadol y menywod sydd gennym yn gweithio ym maes gwyddoniaeth.

Mae Dr Delia Ripley yn Uwch Reolwr Rhaglen ar gyfer y Rhaglen GwyddoniaethGofal Iechyd Cenedlaethol. Yma, mae Delia'n dweud wrthym ni am ei gyrfa mewn gwyddoniaeth a sut roedd ei chefndir anhraddodiadol ond yn ei sbarduno i lwyddo.

“Ers i mi fod yn yr ysgol gynradd, roedd gen i chwilfrydedd a diddordeb yn sut mae pethau'n gweithio. Fy mreuddwyd oedd bod yn wyddonydd, gwisgo fy nghot wen, cynnal arbrofion.

Fy niddordeb mewn geneteg a blociau adeiladu bywyd wnaeth annog fi i astudio gwyddoniaeth fiofeddygol yn y brifysgol, gan raddio gyda gradd ac yn ddiweddarach, meistr yn y pwnc.

Roedd fy swydd gyntaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel Gwyddonydd Biofeddygol. Yma y gwelais swydd yn fy hen brifysgol i ddarlithydd. Er fy mod yn caru fy swydd fel gwyddonydd, roeddwn yn angerddol iawn am annog ac ysbrydoli eraill i'r maes ac felly, roeddwn i'n teimlo y byddai fy mrwdfrydedd yn fwy addas mewn rôl addysgu.

Rwyf bellach wedi bod yn ddarlithydd, yn arbenigo mewn haematoleg, trallwysiad gwaed ac imiwnoleg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ers tair blynedd ar ddeg.

Tra oeddwn i’n dysgu, wnes i ddod yn Gyfarwyddwr Rhaglen y rhaglen BSc (Hons) Gwyddor Gofal Iechyd (Gwyddorau Bywyd) ac roeddwn yn gyfrifol am gefnogi myfyrwyr a oedd yn hyfforddi i fod yn wyddonwyr gofal iechyd mewn byrddau iechyd lleol. Ochr yn ochr â hyn, llwyddais hefyd i gwblhau PhD rhan-amser mewn Immunohaematoleg a dechreuais weithio gyda chorff proffesiynol cenedlaethol mewn gwyddoniaeth gofal iechyd gan eu helpu i sefydlu eu polisïau a'u prosesau addysgol. Yn 2016 fi oedd yr unig Ddarllenydd mewn gwyddoniaeth gofal iechyd yn y DU.

Mae cymaint o fodelau rôl ar gael i ferched, a chymaint o gyfle. Yr Athro a oruchwyliodd fy PhD a roddodd y gefnogaeth a'r anogaeth imi ymdrechu ymlaen yn fy ngyrfa, ac rwyf mor falch bod nhw wedi gwneud hynny! Rwy'n cael gweithio gyda'r unigolion mwyaf anhygoel sy'n gweithio mewn ystod amrywiol o ddisgyblaethau gwyddonol ar draws y GIG. Mae eu harbenigedd, eu hymrwymiad, a'u hymroddiad i ddarparu'r gwasanaethau gorau i gleifion yn rhagorol. Rwyf mor freintiedig i fod mewn sefyllfa lle rwy'n cael gweithio gyda'r unigolion hyn yn ddyddiol, a gwneud cyfraniad bach tuag at eu helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau eraill.

Felly, fy ngeiriau o gyngor i unrhyw un allan yna sydd am ddechrau ar yrfa mewn gwyddoniaeth yw dim ond mynd amdani ac anelu at y brig! Nid oes unrhyw beth na allwch ei gyflawni. Mae fy nghefndir yn anhraddodiadol - fi oedd y cyntaf yn fy nheulu i fynd i'r brifysgol, ond nawr, rydw i mewn swydd lle mae'n rhaid i mi wneud gwahaniaeth go iawn ac rydw i'n teimlo mor freintiedig fy mod i'n gwneud yr hyn rydw i'n ei wneud, ymhlith pobl anhygoel - mae'n swydd rydw i'n ei charu.”