Neidio i'r prif gynnwy

Llongyfarchiadau i Wasanaeth Llyfrgell GIG Cymru am ennill Gwobr Tîm y flwyddyn

[Yn y llun uchod: Llyfrgell a Gwasanaeth Gwybodaeth GIG Cymru ym mis Mehefin 2019]

Mae Llyfrgell a Gwasanaeth Gwybodaeth GIG Cymru wedi ennill gwobr ar y cyd Tîm y Flwyddyn CILIP Cymru 2020.

Fel partner agos i Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), rydym yn falch iawn bod y gwasanaeth llyfrgell wedi derbyn cydnabyddiaeth am addasu'n gyflym i ddarparu cefnogaeth barhaus a gwybodaeth iechyd i staff, hyfforddeion a myfyrwyr GIG Cymru yn ystod 2020 heriol. 

Dywedodd Dr Anton Saayman, Cyfarwyddwr Gwella Addysg a Llywodraethu, AaGIC: “ Mae Llyfrgell a Gwasanaeth Gwybodaeth GIG Cymru wedi bod yn ganolog wrth ddarparu gwybodaeth hanfodol i gefnogi ymateb GIG Cymru i Covid-19. Yn ogystal, mae wedi sicrhau parhad yn ei lefel uchel o wasanaeth a chefnogaeth i ddefnyddwyr y GIG, gan gynnwys ein hyfforddeion a'n hyfforddwyr yng Nghymru, trwy gydol yr amser heriol hwn."

Dywedodd Susan Prosser, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Chadeirydd Gwasanaeth Llyfrgell GIG Cymru, a enwebodd y gwasanaeth: “ Fel rhwydwaith o 24 llyfrgell sydd wedi’u lleoli mewn ysbytai ledled Cymru, mae Llyfrgell a Gwasanaeth Gwybodaeth GIG Cymru wedi ymateb i her pandemig Covid-19 trwy gefnogi staff gofal iechyd a chadw gwasanaethau a lleoedd llyfrgell ar gael i ddefnyddwyr.

“Yn ogystal â datblygu un pwynt mynediad newydd ar gyfer darparu gwasanaethau, mae’r llyfrgelloedd hefyd wedi cyfrannu at arfer da ar gyfer addasu gweithleoedd a gofodau llyfrgelloedd.”

Mae'r gwasanaeth llyfrgell yn bartneriaeth o lyfrgelloedd iechyd GIG Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Mae'n hyrwyddo arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn darparu gwybodaeth iechyd o ansawdd uchel i gefnogi gofal cleifion, addysg, datblygiad proffesiynol, hyfforddiant ac ymchwil. 

Darganfyddwch fwy am Lyfrgell a Gwasanaeth Gwybodaeth GIG Cymru.