Neidio i'r prif gynnwy

Llinell gymorth llesiant y Samariaid ar gyfer gweithwyr iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru

Mae AaGIC, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a’r Samariaid wedi lansio llinell gymorth llesiant gyfrinachol newydd i weithwyr y GIG a gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Mae’r llinell gymorth llesiant ar gael i unrhyw un sy’n gweithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol sydd efallai’n teimlo’n bryderus, dan straen neu wedi’i orlethu, neu dim ond angen siarad am bethau ar ôl shifft brysur neu ddiwrnod hir yn y gwaith. Mae’n bwysicach nag erioed inni barhau i edrych ar ôl ein hunain, er mwyn gallu parhau i ofalu am eraill.

Caiff yr holl alwadau eu hateb gan wirfoddolwyr y Samariaid, sydd wedi’u hyfforddi i wrando heb farnu ac i gynnig cymorth emosiynol. Bydd y llinell gymorth ar agor bob dydd rhwng 7am a 11pm, gan gynnig cymorth yn Saesneg. Bydd llinell gymorth Cymraeg hefyd ar gael bob nos rhwng 7pm a 11pm. 

Mae’r llinell wedi’i bwriadu i helpu unrhyw un sy’n gweithio yn y GIG neu ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru i brosesu eu profiadau yn ystod cyfnod pan maent yn gweithio o dan bwysau cynyddol ac yn ymaddasu i amgylchiadau anodd. Mae’n canolbwyntio ar greu lle diogel iddynt rannu eu teimladau a siarad am eu profiadau.

Dywedodd Claire Smith, Rheolwr Rhaglen y Gweithlu yn AaGIC, ac Arweinydd Rhwydwaith Iechyd a Lles GIG Cymru, “Rydym mor falch ein bod wedi bod yn rhan o ddatblygiad y gwasanaeth pwysig iawn hwn, a fydd yn darparu llinell gymorth ddwyieithog bwrpasol ar gyfer gweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.”

 

Manylion llinell gymorth llesiant gweithwyr GIG Cymru a gofal cymdeithasol:

Gellir ffonio’r llinell gymorth Saesneg i weithwyr a gwirfoddolwyr y GIG a gofal cymdeithasol yn ddi-dâl, ac mae ar gael bob dydd rhwng 7am ac 11pm ar 08004840555.

Gellir ffonio’r llinell gymorth Cymraeg i weithwyr a gwirfoddolwyr y GIG a gofal cymdeithasol yn ddi-dâl, ac mae ar gael bob nos rhwng 7pm ac 11pm ar 08081642777.

Gwefan:

Bydd gwybodaeth am y llinell gymorth i weithwyr y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar gael trwy ein gwefan a thrwy Ein Rheng Flaen sy’n gyfuniad o gymorth un i un ac adnoddau ar-lein i gweithwyr rheng flaen.