Neidio i'r prif gynnwy

Lleoedd clirio nyrsio ar gael ar gyfer mis Medi eleni

Os oes gennych chi neu rywun rydych yn ei adnabod diddordeb mewn astudio nyrsio, nid yw'n rhy hwyr i sicrhau lle prifysgol ar gyfer mis Medi eleni.


Beth yw clirio?
Os ydych yn gwneud cais am radd trwy UCAS, mae'r broses Glirio yn cynnig llwybr arall i ddod o hyd i le mewn prifysgol.

Gall y llwybr hwn fod o ddiddordeb i chi os:

  • rydych wedi newid eich meddwl am eich dewis prifysgol neu radd
  • os nad ydych wedi cyflawni’r canlyniadau disgwyliedig ar gyfer eich dewis gradd gychwynnol
  • os rydych yn gwneud cais am gwrs yn ddiweddarach


Pa gyrsiau nyrsio sydd ar gael yng nghlirio yng Nghymru?
Isod mae rhestr o brifysgolion a'r cyrsiau nyrsio sydd ar gael drwy glirio:

 

Prifysgol Aberystwyth Nyrsio oedolion
Nyrsio iechyd meddwl
Prifysgol Bangor Nyrsio oedolion
Nyrsio dysgu o bell
Nyrsio anableddau dysgu
Nyrsio iechyd meddwl
Prifysgol Caerdydd Nyrsio oedolion
Nyrsio iechyd meddwl
Prifysgol Abertawe Nyrsio oedolion
Nyrsio oedolion (Parc Dewi Sant, Caerfyrddin)
Nyrsio anableddau dysgu
Nyrsio iechyd meddwl
Prifysgol De Cymru Nyrsio oedolion
Nyrsio anableddau dysgu
Nyrsio iechyd meddwl
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

Nyrsio oedolion
Nyrsio plant
Nyrsio iechyd meddwl

Awgrymiadau ar gyfer gwneud clirio'n hawdd

 

Cyhoeddwyd 16 Awst 2023