Cyhoeddedig: 19/04/24
Mae'r tîm iechyd meddwl yn gyffrous i gyhoeddi lansiad y modiwlau hyfforddi CAMHS newydd ar blatfform dysgu “Y Ty Dysgu”.
Mae'r hyfforddiant hwn wedi'i ddatblygu i gefnogi timau iechyd meddwl i wella'r gofal y maent yn ei gynnig i blant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n mynychu gwasanaethau CAMHS yng Nghymru.
Mae pum modiwl wedi’u cynllunio i gyflwyno damcaniaethau am ddatblygiad plant, pobl ifanc a theuluoedd. Ar ôl cwblhau'r modiwlau e-ddysgu a'r gwybodaeth, bydd gan y dysgwr:
• Gwybodaeth am ddatblygiad plant a phobl ifanc
• Gwybodaeth am effaith yr amgylchedd gofal
• Gwybodaeth am amgylchedd teuluol, gweithrediad a thrawsnewidiadau
Gellir cwblhau'r rhain gyda goruchwylwyr fel rhan o daith ddatblygu wedi'i dogfennu neu gellir eu cwblhau fel cyfleoedd dysgu annibynnol. Mae’r modiwlau hyn yn agored i gydweithwyr yn y sector gwirfoddol, gofal cymdeithasol ac iechyd
I ddarganfod mwy neu i gofrestru ar gyfer sesiwn goruchwyliwr cysylltwch â: EIW.MentalHealthWorkforcePlan@wales.nhs.uk