Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor i'w cefnogi i lansio cwrs dysgu o bell llawn amser cyntaf ar gyfer nyrsio yng Nghymru. Bydd myfyrwyr nyrsio ar y cwrs yn rhannu eu hamser rhwng dysgu ar-lein a chael profiad ymarferol ar leoliad.
Mae'r model dysgu o bell hwn yn galluogi dysgwyr i astudio o bell ond yn dal i gael mynediad rheolaidd at diwtor penodol.
Mae gan y rhaglen amser llawn hon yr un cwricwlwm â gradd nyrsio bersonol, a dim ond y dull cyflwyno sy'n wahanol.
Bydd yr elfennau o'r cwrs a addysgir yn cael eu cyflwyno trwy amgylchedd dysgu rhithwir ar-lein rhyngweithiol Prifysgol Bangor. Dyma lle gall myfyrwyr gyrchu darlithoedd, seminarau, hyfforddiant sgiliau, a mwy. Mae hyd yn oed ystafell gyffredin rithwir.
Mae blociau 7 wythnos o leoliadau theori a gwaith bob yn ail, gyda 10 wythnos o wyliau wedi'u gwasgaru ar draws pob blwyddyn. Mae'r lleoliadau hyn yn rhoi'r cyfle i chi ddatblygu a chymhwyso eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn amgylchedd ymarferol.
Byddwch yn dysgu am arfer gorau a rhagoriaeth mewn gofal cleifion gydag ystod o weithwyr iechyd proffesiynol eraill. Bydd y lleoliadau gwaith mor agos â phosibl at gyfeiriad cartref y myfyriwr. Ar rhai adegau, fodd bynnag, efallai y bydd angen rhywfaint o deithio.
“Dechreuodd ein carfan gyntaf astudio ar y rhaglen hon yn 2023 ac mae adborth gan y myfyrwyr yn dangos eu bod yn teimlo bod ganddynt gymuned gefnogol ar gyfer dysgu ar-lein.” meddai Dr Elizabeth Mason, Pennaeth Ysgol Dros Dro.
Ychwanegodd: “Mae’r llwybr dysgu o bell hwn yn caniatáu i fyfyrwyr astudio nyrsio cyn-gofrestru tra'n ymgymryd â dysgu ymarfer o fewn lleoliadau ym Myrddau Iechyd Cymru.
“Mae hyblygrwydd y rhaglen hon yn caniatáu i fyfyrwyr gwblhau eu oriau theori ar-lein trwy blatfform dysgu rhithwir. Mae darlithwyr Prifysgol Bangor, tîm sgiliau astudio’r Brifysgol , arweinydd rhaglen ymroddedig, a thiwtor personol yn cynnig cymorth personol ac ar-lein ar gyfer datblygiad proffesiynol ac i gefnogi dysgu.”
I gael gwybod mwy, ewch draw i ddysgu nyrsio oedolion o bell ym Mhrifysgol Bangor, Dysgu o bell nyrsio plant ym Mhrifysgol Bangor, a dysgu o bell nyrsio iechyd meddwl ym Mhrifysgol Bangor.
Clywch beth oedd gan un o fyfyrwyr dysgu o bell Bangor i'w ddweud am y cwrs: