Neidio i'r prif gynnwy

Lansiad – Canllaw Arfer Gorau Iechyd a Lles Staff ar gyfer GIG Cymru

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch o gyhoeddi Lansiad – Canllaw Arfer Gorau Iechyd a Lles Staff ar gyfer GIG Cymru, yn ddiweddarach y mis hwn.

Wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru, Llywodraeth Cymru, cyrff proffesiynol ac arweinwyr arbenigol, mae’r canllaw wedi’i greu i helpu i wella iechyd a lles staff.

Wedi’i greu gyda GIG Cymru yn ganolog iddo, mae’r canllaw wedi’i fwriadu fel adnodd ychwanegol i gefnogi gweithrediad strategaethau iechyd a lles sefydliadol. Mae’n adnodd arfer gorau i helpu i wella lles staff, sydd yn ei dro, yn galluogi gweithwyr i ffynnu yn y gwaith.

Dywedodd yr arbenigwr ar arweinyddiaeth ac awdur Compassionate Leadership, yr Athro Michael West CBE, sydd wedi cymeradwyo’r canllaw:

“Mae Iechyd a Lles Staff – Canllaw Arfer Gorau ar gyfer GIG Cymru yn canolbwyntio ar sicrhau lles, twf ac ymgysylltiad holl staff iechyd yng Nghymru. Ymhlyg yn ei gynllun mae’r ddealltwriaeth ddofn mai eu llesiant, sef y ffactor pwysicaf wrth ddarparu gofal tosturiol o ansawdd uchel sy’n gwella’n barhaus i bobl Cymru. Mae wedi’i danategu gan sylfaen ddofn mewn tystiolaeth wyddonol am les o bob rhan o’r byd. Bydd y Canllaw Arfer Gorau yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn, cefnogi a galluogi holl staff iechyd a gofal Cymru er budd iechyd a gofal holl bobl Cymru.”

Cynhelir lansiad rhithwir y canllaw am 09:30am ddydd Llun 22 Ebrill 2024 gyda siaradwyr gwadd yn cynnwys:

  • Yr Athro Michael West, CBE
  • Julie Rogers, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn AaGIC 
  • Claire Smith, Arweinydd Rhwydwaith Iechyd a Lles Staff GIG Cymru 
  • Arweinwyr llesiant o bob rhan o GIG Cymru

Byddant yn trafod manteision y canllaw a'r hyn y mae'n ei olygu i staff ar draws GIG Cymru.

I sicrhau eich lle yn y lansiad cofrestrwch heddiw.