Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant ychwanegol Covid-19 ar gael ar ESR

Mae pecyn hyfforddi ar-lein newydd wedi'i ddatblygu i helpu'r gweithlu iechyd a gofal i ymateb i achos Covid-19.

Wedi'i ddatblygu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, mae'r pecyn ar gael i'w ddefnyddio drwy'r Cofnod Staff Electronig (ESR).

Bydd yr hyfforddiant yn galluogi staff sy'n mynychu'r rhaglen ar gyfer staff sydd ddim fel arfer yn gweithio mewn gofal critigol a ddatblygwyd yn ddiweddar efo sail ddefnyddiol cyn dechrau ar y cwrs 3 diwrnod. Hefyd bydd y cwrs yn ddefnyddiol  lawer of staff sy'n gweithio mewn ymateb i Covid-19.

Mae'r pecyn yn cynnwys hyfforddiant ar:

• Siart cofnodi hylif

• Techneg aseptig heb gyffwrdd (ANTT) 

• Meddyginiaeth 

• Tiwbiau nasogastig

• Arsylwadau cleifion

• Rhybudd cynnar Cenedlaethol

• Gofal llwybr anadlu

• Digwyddiadau tyngedfennol o ran dadebru

• Gofal tracheostomi

• Sugno

Sut i gael gafael ar yr hyfforddiant

Gellir dod o hyd i ganllawiau ar sut i gael gafael ar y pecyn hyfforddi drwy ESR yma.