Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant newydd yn annog cyflogwyr GIG Cymru i wneud ymchwiliadau i gysylltiadau gweithwyr fel y dewis olaf

Fis diwethaf, bu Addysg a Gwella Iechyd Cymru mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gynnal eu Hymchwiliadau Gweithwyr: Hyfforddiant Gofalu am eich pobl a'r broses ar gyfer sefydliadau'r GIG yng Nghymru.

Amlygodd y digwyddiad y niwed y gall prosesau ymchwilio ei achosi i unigolion yr ymchwilir iddynt, yn ogystal â’r rhai sy’n ymwneud â’r broses. Ystyriodd hefyd y niwed posibl i ddiwylliant ac enw da sefydliad, gan ddargyfeirio amser ac adnoddau oddi wrth gyflawni ei fusnes craidd.

Amgylcheddau dysgu a thosturiol

Dywedodd Julie Rogers, Dirprwy Brif Weithredwr AaGIC: “Mae’r gwaith y mae Aneurin Bevan wedi bod yn ei wneud i wella profiad staff o’i ymchwiliadau i weithwyr yn cyd-fynd â’n ffocws ar arweinyddiaeth dosturiol yn AaGIC. Mae mor bwysig nad yw sefydliadau'n cosbi eu pobl am wneud camgymeriadau dilys drwy neidio'n syth i brosesau AD difrifol. Mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein staff drwy’r cyfnodau hyn, gan greu amgylcheddau dysgu a thosturiol fel y gallwn eu cadw a sicrhau eu bod yn ffynnu.”

Er bod cyflwynwyr yn cydnabod bod angen ymchwiliadau gweithwyr weithiau i fynd i’r afael â materion yn y gweithle – mae’r sylweddoliad cynyddol eu bod mor gostus i les unigolion, diwylliant ac effeithiolrwydd y sefydliad yn golygu y dylid eu hystyried fel dewis olaf. Roedd yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar bwysigrwydd deall y rhesymau dros sut y gallai mater fod wedi codi a bod yn ymwybodol o'r opsiynau ar gyfer mynd i'r afael ag ef, heb ddilyn llwybr ffurfiol bob amser.

 

Dywedodd Nicky Hughes, Cyfarwyddwr Cyswllt Nyrsio ar gyfer cysylltiadau cyflogaeth yn RCN Cymru: “Mae’r ffocws newydd hwn ar sut mae sefydliadau’n rheoli eu hymchwiliad gweithwyr i’w groesawu’n fawr ac yn gam cadarnhaol ymlaen i’n haelodau.”

Gostyngiad mewn absenoldeb staff

 

 Roedd cydweithwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, sydd hefyd yn mynd â’u sefydliad drwy’r hyfforddiant, yn gallu adrodd am ostyngiad yn nifer yr ymchwiliadau a gynhaliwyd ganddynt dros y chwe mis diwethaf - gan arwain at leihad mewn absenoldeb staff ac arbedion ariannol.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi partneru â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ddatblygu'r rhaglen hon.