Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddai o Gymru'n arwain prosiect arloesol i drawsnewid triniaeth cleifion trawiad ar y galon i'r dyfodol

Y mae llawfeddyg, sydd wedi'i hyfforddi yng Nghymru, wrth wraidd offer newydd – achubol o bosib – a allai newid y ffordd y mae trawiadau ar y galon yn cael eu trin.

Clefyd y galon yw un o brif achosion marwolaeth yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys trawiadau ar y galon a all niweidio cyhyr y galon ac arwain at fethiant y galon.

Mae ymchwil yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ynghylch ffyrdd o adfywio cyhyrau yn dilyn trawiad ar y galon gan gynnwys atgyweirio'r galon trwy roi patsh ar ei haenen allanol. Mae'r dechneg hon ar fin cyrraedd treialon dynol ac mae'n defnyddio llawdriniaeth (agored) ar y galon, sy’n ymyrrol ac yn peri risg, i drawsblannu'r patshys bio-argraffedig.

Ond nawr, mae'r llawfeddyg cardiothorasig Chris Roche, hyfforddai Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), wedi arwain tîm o arbenigwyr roboteg a pheirianneg yn Awstralia sydd, o bosib, wedi canfod ffordd well.

Dyfeisiodd Chris a'i dîm gynddelwau o offer llawfeddygol ar gyfer llawdriniaeth twll clo robotig, lleiaf ymyrrol, i drawsblannu patshys i'r galon. Mae’r gwaith arloesol o bosibl yn awgrymu llwybr i ddatrys y broblem ynghylch sut i drawsblannu patshys i gleifion, sydd â methiant y galon, yn y dyfodol. 

Dywedodd Chris: “Fe gymerais i saib o’m hyfforddiant yng Nghymru a chymryd tair blynedd i ffwrdd i wneud PhD yn Sydney, Awstralia (“ar fenthyg” o Gymru i Dde Cymru Newydd, math o beth). Mae’n enghraifft eitha’ da o sut mae’r rhaglen hyfforddiant Gymreig yn galluogi pobl i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau gan eraill drwy deithio i wahanol lefydd ar gyfer ymchwil ac i ddysgu sgiliau newydd.”

Dim ond ychydig o ganolfannau yn y byd sydd â'r arbenigedd, yr offer a'r cyfleusterau i wneud hyn a bu tîm amlddisgyblaethol mewn dwy brifysgol yn Awstralia (Prifysgol Sydney a Phrifysgol Technoleg Sydney) yn cydweithio i ganiatáu iddo ddigwydd.

Cyflawnwyd y prosiect arloesol hwn ochr yn ochr â PhD Chris, ble mae’n gweithio ar drawsnewid bôn-gelloedd o waed neu groen yn gelloedd calon sy’n curo. Mae wedi darganfod ei bod hi'n bosib ail-greu celloedd claf ei hun gan ddefnyddio bioargraffydd 3D i wneud clytiau calon sy'n cyd-fynd â chelloedd pobl eu hunain. Yn y dyfodol, gallai hyn olygu amnewidiadau celloedd y galon ar gais, ar gyfer cleifion trawiad ar y galon, sy’n peri dim bygythiad o gael eu gwrthod gan y corff, risg llawer is o fethiant y galon a dim rhestrau aros hirfaith am drawsblaniadau.

Ychwanegodd Chris: “Os bydd pobl mewn 20 mlynedd yn trawsblannu patshys calon fel mater o drefn gan ddefnyddio roboteg leiaf ymyrrol, yna ryw gyw hyfforddai ifanc ar fenthyg o Gymru i Sydney, a grŵp o fyfyrwyr peirianneg israddedig, di-dâl fydd yn gyfrifol am fod wedi gwneud hynny am y tro cyntaf erioed. Dw i’n meddwl bod hynny’n werth coffi i ddathlu!”

Mae AaGIC yn ystyried hyfforddeion – yn union fel Chris – fel curiad calon y GIG a’r genhedlaeth nesaf o ofal iechyd. Mae'n ymfalchïo mewn cefnogi hyfforddeion a myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial.