Neidio i'r prif gynnwy

Helpwch ni i lunio'r dyfodol ar gyfer gweithlu iechyd meddwl cynaliadwy i Gymru

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru yn cydweithio i ddatblygu cynllun gweithlu i wireddu 'Cynllun cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019/2022' Llywodraeth Cymru. 

Hoffem glywed gan unigolion, cynrychiolwyr, grwpiau a sefydliadau am y camau allweddol a fydd yn sail i'r cynllun gweithlu iechyd meddwl amlbroffesiynol hwn ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae'r ymgynghoriad yn cynnal cyfraniadau gan unigolion, cynrychiolwyr, grwpiau a sefydliadau o 1 Chwefror tan 28 Mawrth 2022.

Dywedodd Alex Howells, Prif Weithredydd, AaGIC, : “Roeddem wrth ein bodd bod cynifer o'n cydweithwyr, partneriaid a defnyddwyr gwasanaethau eisoes wedi rhannu eu syniadau am weithlu iechyd meddwl y dyfodol, rydym wedi ymgysylltu, ymchwilio a dadansoddi'n sylweddol, ac mae hyn wedi llywio'r camau a awgrymwyd yn y ddogfen ymgynghori”.

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: "Bydd y cynllun hwn yn gyfrwng i ysgogi newid radical a gwelliannau yn y ffordd rydym yn datblygu, yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi ein gweithlu iechyd meddwl. Bydd hefyd yn ein helpu i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol cyffredinol i'w harfogi'n well i ddelio ag anghenion iechyd meddwl pobl Cymru.

“Mae iechyd meddwl a lles yn fusnes i bawb, a dyna pam rydym yn awyddus i glywed gan bobl a sefydliadau ym mhob sector, yn ogystal â chan bobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon, eu teuluoedd a'u gofalwyr, fel y gallwn gasglu eu barn a'u hadlewyrchu yn y cynllun terfynol.”

Bydd y cynllun terfynol yn cynnwys y gweithlu iechyd meddwl cyffredinol ac arbenigol sy'n chwarae rhan mewn gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru a'i nod yw darparu gofal sy'n cael ei arwain gan ddinasyddion ac sy'n cael ei yrru gan ansawdd i ddiwallu anghenion y rhai sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, darparu gofal a arweinir gan gleifion ac sy'n cael ei yrru gan ansawdd.

Gallwch ddod o hyd i fanylion am sut i gymryd rhan ar wefan AaGIC Ymgynghoriad ar gynllun y gweithlu iechyd meddwl ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd â gwybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer gweithdai rhithwir i gefnogi'r ymgynghoriad.