Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth bwysig ar gyfer myfyrwyr bwrsariaeth 2017 a 2018

Yn ddiweddar rydym wedi gwneud rhai newidiadau i delerau ac amodau cytundeb Cynllun Bwrsariaeth y GIG i fod yn fwy ffafriol i fyfyrwyr. Mae'r telerau ac amodau newydd yn cyflwyno hawl i apelio am amser ychwanegol i sicrhau sefyllfa yng Nghymru, neu i'w rhyddhau o'ch rhwymedigaeth i ad-dalu'r fwrsariaeth os na fyddwch yn gallu gweithio yng Nghymru ar ôl cwblhau eich cwrs. 

Rydym yn awr yn eich gwahodd i gytuno i'r amodau newydd hyn. Os byddwch yn dewis peidio â chytuno, cewch eich cadw at y telerau a'r amodau gwreiddiol sy'n eich gadael yn methu apelio os bydd angen.  Bydd dyfarniadau myfyrwyr wedi cysylltu â chi drwy e-bost gyda gwybodaeth bellach a ffurflen syml i'w llenwi i gytuno i'r newidiadau.  Os nad ydych wedi derbyn y wybodaeth hon, anfonwch e-bost i HEIW.EdCommissioning@wales.nhs.uk i ofyn am gopi newydd.