Neidio i'r prif gynnwy

Gwobrwyo staff AaGIC am eu cyfraniad at addysgu yn GIG Cymru

[O'r chwith i'r dde: Yr Athro Dame Parveen Kumar, Dr Heidi Phillips, yr Athro Andrew Finlay, Dr Sally Davies]

Mae dau o staff meddygol blaenllaw Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi cael eu hanrhydeddu am eu hymrwymiad i hyfforddiant.

Enwebwyd Dr Heidi Phillips, Aelod Annibynnol o Fwrdd AaGIC, yn Athro Clinigol y Flwyddyn gan y BMJ / BMA Cymru Wales.  

Enillodd Heidi, sy'n Athro Cyswllt ar gyfer Gofal Sylfaenol yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, y wobr am Addysgu a Dysgu Arloesi yng Ngwobrau Athro Clinigol y Flwyddyn y BMA 2019.

Mae'r gwobrau, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, yn cydnabod athrawon sydd wedi rhagori yn eu gwaith, gan gefnogi meddygon mewn hyfforddiant a myfyrwyr meddygol yng Nghymru.

Canmolodd y beirniaid Heidi, meddyg teulu yn Ne Cymru ers 2001, am ei gwaith arloesol ac ysbrydoledig ar ehangu mynediad i ddarpar fyfyrwyr meddygol a datblygu mentrau recriwtio mewn gofal sylfaenol a chymunedau sydd wedi'u tan-wasanaethu yng Nghymru.

Dr
O'r chwith i'r dde: Yr Athro Dame Parveen Kumar, Dr John Rees, Yr Athro Andrew Finlay, Dr Sally Davies

Cafodd Dr John Rees, Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi Meddygon Teulu yn AaGIC, ei gydnabod hefyd gan y BMA yn y categori Cyflawnwyr Eithriadolt.

Mae John wedi gweithio fel meddyg teulu yn Llanymddyfri am dros 30 mlynedd ac ef yw arweinydd derbyniadau'r rhaglen Meddygaeth i Raddedigion yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe.

Mae cydweithwyr John yn ei ddisgrifio fel athro naturiol ac yn dweud bod y wobr yn gydnabyddiaeth am ymroddiad blynyddoedd lawer i gyflwyno addysg feddygol eithriadol.

Dywedodd yr Athro Push Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol AaGIC: “Rydym yn falch iawn o ddathlu cyflawniadau a chyfraniadau rhagorol ein staff fel athrawon clinigol ac addysgwyr.

“Mae'r gwobrau hyn yn anrhydeddu'r rhai sy'n chwarae rhan hanfodol mewn addysgu clinigol, gan greu gwell gofal i'n cleifion ar draws y gwasanaeth iechyd a darparu profiad gwych i hyfforddeion, yma yng Nghymru. Ni allai cydnabod yr enillwyr fod yn fwy haeddiannol.”

Daw'r enwebeion ar gyfer y gwobrau cenedlaethol o wobrau lleol a roddwyd gan AaGIC, Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, ac Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd. Cafodd enillwyr y gwobrau unigol eu hystyried gan banel annibynnol o feirniaid a benderfynodd yr enillydd Cymru gyfan.

 

DIWEDD 

 

Nodiadau i Olygyddion: 

Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar 1 Hydref 2018. Mae'n awdurdod iechyd arbennig o fewn GIG Cymru a grëwyd drwy ddod â thri sefydliad allweddol ar gyfer iechyd ynghyd: Deoniaeth Cymru; Gwasanaethau Addysg a Datblygu Gweithlu GIG Cymru; a Chanolfan Cymru ar gyfer Addysg Broffesiynol Fferyllol (WCPPE).

Yn eistedd ochr yn ochr â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, mae gan AaGIC rôl flaenllaw yn addysg, hyfforddiant, datblygiad a ffurfio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Mae ei swyddogaethau allweddol yn cynnwys addysg a hyfforddiant, datblygu'r gweithlu a moderneiddio, datblygu arweinyddiaeth, cynllunio gweithlu strategol, cudd-wybodaeth y gweithlu, gyrfaoedd ac ehangu mynediad.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: http://heiw.nhs.wales/