Neidio i'r prif gynnwy

Gwahoddiad i gydweithwyr hyrwyddo: 'Ein Myfyrdodau, Ein Penderfyniadau, Ein Dyfodol'

Mae Cymru Iachach yn golygu newid yr hyn rydyn ni'n ei wneud a sut rydyn ni'n gwneud pethau ledled y GIG a Gofal Cymdeithasol Cymru. Ar gyfer y cleifion a'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu, felly mae mwy o bwyslais ar ofyn y cwestiwn “pa ofal ydych chi yn dymuno ac ei angen”?

Mae angen i ni ofyn y cwestiynau yma yn i'n gwaith a'n gweithleoedd.

Mae Arolwg Staff eleni wedi cael ei alw’n fwriadol yn ‘Ein Myfyrdodau, Ein Penderfyniadau, Ein Dyfodol’. Nodau allweddol y dull yw cael cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan:

  • rhoi adborth / myfyrdodau
  • gwneud penderfyniadau am yr hyn sy'n digwydd nesaf.

Er mwyn hyrwyddo'r arolwg ac annog eraill i gymryd rhan, rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn fideo fer.

Rydym am i staff o bob rhan o GIG Cymru (gan gynnwys Undebau Llafur, uwch arweinwyr a staff rheng flaen) recordio eu hunain yn darllen y sgript fer hon. Rydym yn annog cyfraniadau yn yr iaith Gymraeg.

Os hoffech chi gymryd rhan, recordiwch eich hun mewn fideo fer a'i anfon, trwy WeTransfer, i heiw.communications@wales.nhs.uk. Hefyd cwblhewch ac anfonwch y ffurflen gydsynio hon os gwelwch yn dda.

Gellir gweld arweiniad llawn ar sut i ffilmio yma. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch gyda james.moore6@wales.nhs.uk.

Sgript:

Rwy'n cymryd rhan yn Ein Myfyrdodau, Ein Penderfyniadau, Ein Dyfodol yr Hydref hwn.

Dyma'r arolwg staff newydd, byrrach, i bob un ohonom yn GIG Cymru. Mae cymryd rhan yn syml.

Gyda llai nag 20 cwestiwn, dim ond ychydig funudau y dylai gymryd i'w cwblhau.

Ac mae'n gwbl gyfrinachol.

Bydd fy adborth yn gwella ein bywydau gwaith gyda'm tîm, yn fy sefydliad i ac yn y GIG yng Nghymru.

Timau cryfach. Sefydliadau tosturiol, iachach, tecach a mwy cyfunol. Gwell gofal.

Gall pawb sy'n gweithio yn y GIG yng Nghymru gymryd rhan. Rwy'n eich annog i ymuno â mi!

Edrychwch allan am fanylion gan eich Bwrdd Iechyd neu'ch Ymddiriedolaeth fel y gallwch gymryd rhan.

Ein Myfyrdodau. Ein Penderfyniadau. Ein Dyfodol. Ein GIG.

Neges atodol ... Rwy'n cymryd rhan yn Ein Myfyrdodau, Ein Penderfyniadau, Ein Dyfodol oherwydd ...