Neidio i'r prif gynnwy

Gwahodd datganiadau o ddiddordeb ar gyfer rolau rheolwr rhaglen nyrsio yn AaGIC

Gwahodd datganiadau o ddiddordeb ar gyfer dwy swydd rhan amser Band 8a (neu gyfwerth) yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC):

  1. Rôl Rheolwr Rhaglen Addysg (Nyrs Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol)
  2. Rôl Rheolwr Rhaglen Addysg (Cymwysterau Ymarfer Arbenigol ym maes Nyrsio Cymunedol

Dyma ddau gyfle gwych i weithio ar lefel genedlaethol ar fentrau strategol sy'n gysylltiedig â safonau Cymwysterau Ymarfer newydd yr NMC ym maes Nyrsio Iechyd Cyhoeddus a Nyrsio Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol. Mae'n ofynnol i bob rhaglen addysgol o fewn y meysydd ymarfer hyn fodloni safonau newydd yr NMC o fis Medi 2024. Wrth baratoi ar gyfer hyn, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn bwriadu penodi dau reolwr rhaglen i weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu Dogfennau Asesu Ymarfer Cymru Gyfan sy'n sicrhau cydymffurfiaeth â safonau newydd yr NMC ac yn darparu cysondeb ledled Cymru.

Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan nyrsys iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol a nyrsys cymunedol sydd â Chymhwyster Ymarfer Arbenigol ac sydd ar hyn o bryd yn gweithio mewn lleoliad prifysgol neu bractis ac sydd â hanes o brofiad ymgysylltu a rheoli prosiectau. 

Bydd disgwyl i'r Rheolwyr Rhaglen penodedig weithio mewn partneriaeth â'i gilydd, defnyddio dysgu ar y cyd a sicrhau aliniad Dogfennau Asesu Ymarfer lle bo'n berthnasol.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio ar sail secondiad o'u rolau presennol am deuddeg mis (22.5 awr yr wythnos fesul rôl). Rydym yn hapus i ystyried trefniadau gweithio hyblyg er mwyn cwrdd ag anghenion unigol. Gwahoddir ceisiadau o bob rhan o Gymru. 

Bydd cyllid gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn cefnogi arian ôl-lenwi i unigolion gael eu secondio o'u rolau parhaol, gyda chytundeb eu rheolwyr sefydliadol. Sicrhewch fod gennych gefnogaeth gan eich tîm rheoli cyn i chi wneud cais.

Os oes gennych ddiddordeb, sicrhewch eich bod yn nodi'n glir pa swydd yr hoffech gael eich ystyried ochr yn ochr â mynegiant byr o ddiddordeb yn amlinellu eich profiad, eich sgiliau a'ch addasrwydd ar gyfer y rôl a chyflwyno drwy e-bost at emma.davies61@wales.nhs.uk erbyn Dydd Sadwrn 28 Ionawr 2023.

Am fanylion pellach cysylltwch ag Emma Davies (Rheolwr Safonau Proffesiynol a Rheoleiddio, AaGIC).