Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn awdurdod iechyd arbennig sydd â rôl flaenllaw o ran addysgu, hyfforddi, datblygu a chyflunio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu cyfleoedd newydd i fwy o bobl gyrchu yrfaoedd yn GIG Cymru. O ganlyniad, mae Prifysgol Abertawe ar fin cynnig gradd nyrsio newydd gyda mwy o hyblygrwydd i'r rhai y gallai fod ei hangen arnynt.
Mae'r cwrs yn cynnwys wythnos astudio byrrach, ac mae'n rhedeg ochr yn ochr ag amseroedd tymor ysgol. Bydd hyn yn helpu i gydlynu lleoliadau nyrsio o amgylch ymrwymiadau personol myfyriwr. Yn ogystal, caiff ei ffioedd eu hariannu'n llawn drwy fwrsariaeth y GIG.
Mae'r cwrs newydd yn cael ei lansio i fynd i'r afael â phrinder y GIG ac annog pobl sydd â phrofiad bywyd i ymuno â'r proffesiwn nyrsio drwy agor y drws i'r rhai na fyddant fel arall yn gallu ymrwymo i astudio.
Mae'r Brifysgol yn cydnabod cryfderau'r rhai sy'n aml-dasgio o ddydd i ddydd a'r angen i ddarparu dull mwy hyblyg o astudio.
Credir y bydd y cwrs yn ddelfrydol i unrhyw un sydd â phrofiad mewn rolau gofalu, er enghraifft rhieni a gofalwyr, sy'n edrych i gymryd y cam cyntaf tuag at yrfa gwerth chweil iawn tra'n cydbwyso ymrwymiadau teuluol.
Mae Jessica Bain, myfyriwr nyrsio, yn dweud bod ei phrofiad o astudio yn Abertawe yn gadarnhaol iawn: “Rwyf wrth fy modd gyda pha mor agos yw'r cwrs nyrsio. Rwy'n teimlo y gallwch chi wir ddod i adnabod y staff a'r cyd-fyfyrwyr ar y cwrs hwn.
“Mae'r darlithwyr bob amser yn angerddol am yr hyn maen nhw'n ei ddysgu, sydd yn ei dro yn gwneud i mi deimlo'n fwy angerddol hefyd. Mae hefyd yn wych cael eich dysgu gan staff sydd wedi cael llawer o brofiad clinigol, gan eu bod yn rhannu hanesion a phrofiadau personol fel rhan o'u haddysgu.”
Dywedodd yr Athro Jayne Cutter, pennaeth yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Alla i ddim aros i groesawu ein myfyrwyr cyntaf ar y rhaglen newydd gyffrous hon a fydd yn cynnig cyfle i bobl nad ydynt fel arall yn cael y cyfle i astudio am radd mewn nyrsio.
“Rwyf wedi bod yn nyrs gofrestredig ers blynyddoedd lawer a gallaf ddweud yn onest ei bod wedi bod yn fraint cael bod yn aelod o'r proffesiwn mwyaf gwerth chweil hwn. Bydd y rhaglen hon yn caniatáu i'r rhai nad ydynt yn gallu astudio'n llawn amser gyflawni eu breuddwydion a dechrau gweithio tuag at yrfa lle byddant yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i'r rhai sydd dan eu gofal ac y byddant yn teimlo boddhad enfawr ohoni.”
Erthygl o Brifysgol Abertawe.